Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Medi 2016

Cyfarfod cyhoeddus Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd

Nos Fawrth, 20 Medi, cynhelir cyfarfod arbennig yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal ymhen dwy flynedd.

Bwriad y cyfarfod, a gynhelir am 19.00, yw gwahodd trigolion yr ardal i fod yn rhan o’r paratoadau a’r trefniadau ar gyfer un o wyliau mawr y byd a gynhelir ym Mae Caerdydd o 3-11 Awst 2018. 

Mae croeso mawr i bawb, ac mae’r trefnwyr yn awyddus i ddenu unigolion o bob rhan o’r ddinas i fod yn rhan o’r prosiect.

Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: “Mae cefnogaeth leol yn eithriadol o bwysig i lwyddiant yr Eisteddfod a’r gwaith a wneir ar lawr gwlad yn rhan ganolog o’r prosiect. 

"Cawsom gefnogaeth ardderchog y tro diwethaf i’r Eisteddfod ymweld â’r brifddinas yn 2008, a gobeithio y cawn brofiad tebyg y tro hwn.

“Mae Caerdydd yn ddinas egnïol a llawn bywyd, a’r cysyniad o Eisteddfod wahanol yn y Bae yn gyffrous. 

"Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn awyddus i fod yn ran o brosiect newydd a gwahanol a fydd yn gweithio er budd y Gymraeg a diwylliant Cymru yn y brifddinas, ac y bydd yr Eisteddfod yn llwyddiant mawr ym mis Awst 2018.

“Mae’r gweithgareddau cymunedol a’r gwaith allymestyn dros y ddwy flynedd nesaf yn greiddiol i amcanion yr Eisteddfod, a’r gobaith yw y gallwn ddenu criw mawr o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn hen ffrindiau a wynebau newydd, i fod yn rhan o’r tîm y tro hwn. 

“Dewch draw atom i’r Hen Lyfrgell, soniwch wrth eich ffrindiau a’ch cydweithwyr, a helpwch ni i greu tîm cryf gyda phobl o bob oed a chefndir sy’n awyddus i weld y Gymraeg yn ffynnu a’r Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth yn lleol a chenedlaethol.”

Mae croeso mawr i bawb a darperir offer cyfieithu ar y pryd ar y noson.

Llun: Elen Elis

Rhannu |