Mwy o Newyddion
Annog pobl i ddweud eu dweud am lygredd aer a llygredd sŵn
Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn sut y gall Cymru wneud yn well o ran rheoli llygredd aer a llygredd sŵn.
Dros y deuddeg wythnos nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i bobl fynegi barn am nifer o gynigion penodol a gafodd eu datblygu ar ôl trafod gydag arbenigwyr ym maes ansawdd aer a sŵn mewn awdurdodau lleol, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r cynigion yn canolbwyntio’n bennaf ar wella’r drefn ar gyfer Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol (LAQM).
O dan y system honno, sy’n bodoli ers cryn amser ac sy’n cael ei defnyddio ledled y DU, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fonitro ansawdd aer a rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer lleol ar waith yn unol â hynny.
Mae’r drefn bresennol ar gyfer rheoli ansawdd aer yn lleol wedi llwyddo i nodi nifer mawr o ardaloedd lle mae llygredd yn broblem, ond nid yw wedi cael fawr o lwyddiant wrth geisio cael gwared ar y broblem honno.
Nod y cynigion yn y ddogfen ymgynghori yw symleiddio prosesau a datblygu gweithdrefn gadarn ar gyfer mynd ar drywydd adroddiadau cynnydd a chynlluniau gweithredu sy’n hwyr.
Bydd cwestiwn agored pwysig yn cael ei ofyn hefyd yn yr ymgynghoriad, sef beth arall y dylem fod yn ei wneud i fynd i’r afael â llygredd aer.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet: “Mae lleihau llygredd aer a llygredd sŵn yn rhywbeth sydd o’r pwys mwyaf os ydym am wella iechyd pobl ac ansawdd eu bywydau.
"Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn cynifer o bobl ag y bo modd am sut orau y gallwn ni fynd â’r maen i’r wal.
“Byddwn yn gwrando’n astud dros y 12 wythnos nesaf. Hoffwn i annog pobl o bob cwr o Gymru i ddweud eu dweud. Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar bob yr un ohonom.”
Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd y bydd Llywodraeth Cymru, yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn mynd ati i gyflwyno’r un fath o ddeddfwriaeth â’r Undeb Ewropeaidd ar wella ansawdd aer, ac i’w gwneud yn gryfach.
“Aethon ni ddim ati o’n hanfodd i fabwysiadu’r rheoliadau Ewropeaidd hyn ar ansawdd aer.
"Roedd gennym reswm da iawn dros wneud hynny - y nod yw cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd.
"Wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni gyflwyno rheoliadau tebyg i’r rhai pwysig hyn ac os bydd modd, eu haddasu a’u chryfhau er mwyn diwallu anghenion penodol Cymru.”
Mae rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad, gan gynnwys sut i gymryd rhan ynddo, i’w gweld drwy ddilyn yr hyperddolen isod:
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/