Mwy o Newyddion
Ffiniau newydd - ni ddylai Cymru fod ar ei cholled o’i gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi manylion llawn heddiw o’i gynigion cychwynnol i newid map yr etholaethau Seneddol.
Mae’r Ddeddf System Bleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011 yn gofyn am leihau nifer yr etholaethau yn y DU o 650 o 600 ac i bob etholaeth yn y DU gael rhwng 71,031 a 78,507 o etholwyr.
I gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, bwriedir lleihau nifer yr etholaethau yng Nghymru o 40 i 29.
Wrth ymateb i gyhoeddiad ffiniau newydd gan y Comisiwn Ffiniau, mi ddwedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS: “Er ein bod, mewn egwyddor, yn gefnogol o ymdrechion i leihau nifer yr Aelodau Seneddol, ni ddylai Cymru fod ar ei cholled o’i gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol.
"Fel mae’n sefyll, mae pwerau Cymru yn wanach o lawer na phwerau’r Alban a Gogledd Iwerddon.
"Mae San Steffan yn dal i fod yn gyfrifol am bolisïau sydd yn effeithio ar Gymru ac mi fydd gan ein gwlad lai o lais os yw’r cynigion yma yn cael eu mabwysiadu.
“Rhaid i unrhyw leihad yng nghynrychiolaeth Cymru gael ei gyd-bwyso â throsglwyddiad y pwerau pwysig yma i Gymru.
"Mi wnaeth cynrychiolaeth yr Alban gael ei lleihau yn 2005 dim ond mewn ymateb i drosglwyddiad sylweddol o bwerau i’r Alban.
"Mae San Steffan yn rhwystro Cymru rhag derbyn yr un cyfrifoldebau sydd bellach wedi cael eu trosglwyddo i’r Alban a Gogledd Iwerddon ond eto, mae ein cyrychiolaeth yn San Steffan yn cael ei leihau gan chwarter.
“Mae Cymru yn cael ei thawelu yn San Steffan ac os nad ydy hynny’n cael ei gyd-bwyso trwy wneud trosglwyddiad sylweddol o bwerau nôl i Gymru, mi fydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r newidadau.”