Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Medi 2016

Comisiwn yn ymgynghori ynghylch cynigion i newid ffiniau etholaethau Cymru

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi manylion llawn heddiw o’i gynigion cychwynnol i newid map yr etholaethau Seneddol.

Mae’r lansiad yn cychwyn cyfnod o 12 wythnos o ymgynghori cyhoeddus pan fydd y Comisiwn yn gofyn i bobl 'ddweud eu dweud' am y cynigion, un ai drwy gyflwyno sylwadau ysgrifenedig drwy'r post neu ar lein neu drwy gyflwyniadau llafar mewn un o'r pum gwrandawiad a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Mae’r Ddeddf System Bleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011 yn gofyn am leihau nifer yr etholaethau yn y DU o 650 o 600 ac i bob etholaeth yn y DU gael rhwng 71,031 a 78,507 o etholwyr.  

Mae llawer mwy o bleidleiswyr ym mhob etholaeth newydd a gynigir, ond un, nag sydd yn etholaethau Cymru ar hyn o bryd.

I gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, bwriedir lleihau nifer yr etholaethau yng Nghymru o 40 i 29.  Hwn fyddai’r newid mwyaf i fap etholaethol Cymru ers creu'r Comisiwn Ffiniau ym 1944.

O dan gynigion cychwynnol y Comisiwn, bydd pob etholaeth yn newid a rhai yn newid yn sylweddol.  Mae’r Comisiwn, fodd bynnag, wedi sicrhau fod y Cynigion Cychwynnol – sy’n cael eu cyhoeddi heddiw – yn cydymffurfio’n llawn â gofynion y ddeddfwriaeth.

Yn ôl y Comisiwn, yn ogystal â chyfarfod â’r meini prawf statudol, mae hefyd wedi talu sylw i ffactorau eraill sy’n berthnasol i Gymru, megis:  ystyriaethau daearyddol, gan gynnwys maint, ffurf a hygyrchedd etholaethau, ffiniau llywodraeth leol, ffiniau’r etholaethau presennol ac unrhyw ymlyniad lleol a fyddai'n cael ei dorri gan y newidiadau mewn etholaethau.

Meddai Steve Halsall, Ysgrifennydd y Comisiwn, heddiw: “Mae'r Comisiwn wedi paratoi set o gynigion cychwynnol sy'n cyfarfod â gofynion Deddf 2011.

"Mae hefyd wedi talu sylw i ffactorau perthnasol eraill ac wedi ceisio cael yr atebion sydd fwyaf addas i anghenion lleol yng Nghymru.

"Rhaid i mi bwysleisio mai cynigion cychwynnol yw’r rhain ac rwy'n mawr obeithio y bydd y cyhoedd yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori sy’n dechrau nawr.”

Mae’r Comisiwn wedi ystyried nifer o ddewisiadau eraill hefyd.  Doedd rhai ddim yn hyfyw oherwydd nad oedden nhw'n cyd-fynd â'r gofynion statudol ynghylch maint etholaethau neu eu bod yn amharu ar etholaethau eraill.  

Drwy ei gynigion cychwynnol, mae'r Comisiwn wedi ceisio cael yr atebion sy'n fwyaf addas i anghenion lleol yng Nghymru.   Nawr, mae eisiau clywed beth yw barn pobl Cymru.

Ychwanegodd Mr Halsall:  “Yn ystod y 12 wythnos nesaf, gall pobl ymweld â’n porth ymgynghori ar y we, ysgrifennu atom ni neu anfon e-bost i adael i ni wybod beth yw eu barn ynghylch cynigion y Comisiwn.

"Yn derbyn neu’n gwrthod, rydyn ni’n awyddus i glywed eu barn.

"Os ydyn nhw'n gwrthwynebu - yn enwedig os gallen nhw gynnig atebion eraill - bydd y Comisiwn yn eu hystyried yn llawn ac, efallai, yn newid ei gynigion o ganlyniad."

Fel rhan o’r ymgynghori cychwynnol, mae gofyn i’r Comisiwn gynnal gwrandawiadau cyhoeddus i roi cyfle i bobl wneud cyflwyniadau llafar ynghylch unrhyw un o gynigion presennol y Comisiwn ac i gyflwyno cynigion eraill.

Mae lleoliad, man cyfarfod a dyddiad y pum gwrandawiad cyhoeddus a fydd yn cael eu cynnal led led Cymru fel a ganlyn:

 

12 - 13 Hydref: Caerfyrddin, Gwesty’r Llwyn Iorwg

19 - 20 Hydref: Bangor, Y Ganolfan Reoli, Prifysgol Bangor

26 - 27 Hydref: Caerdydd, Mercure Holland House

02 – 03 Tachwedd: Llandrindod, Gwesty’r Metropole

09 – 10 Tachwedd: Wrecsam, Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr

Gofynnir i bawb sy’n dymuno rhoi cyflwyniad llafar yn unrhyw un o’r gwrandawiadau uchod gysylltu â'r Comisiwn drwy e-bost ar bcomm.wales@wales.gsi.gov.uk neu ar y ffôn ar 029 2046 4819 i gadarnhau ar ba ddyddiad ac amser yr hoffen nhw gyflwyno eu sylwadau.

Bydd y Comisiwn yn ysgrifennu at bawb sydd wedi cyflwyno cais gyda gwybodaeth bellach ynghylch y gwrandawiadau ac i ddangos pa amser sydd wedi’i neilltuo ar eu cyfer.

Bydd pob sylw yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach (yn Gymraeg a Saesneg) cyn cynnal ‘ymgynghoriad dilynol’.

Cyflwynir cynigion terfynol y Comisiwn erbyn mis Hydref 2018.

Ceir manylion llawn ar www.bcomm-wales.gov.uk http://www.cffg2018.org.uk

Rhannu |