Mwy o Newyddion
Waldo Williams - Darlith a dadorchuddio yn Llangernyw
Trigain mlynedd wedi cyhoeddi Dail Pren, unig gyfrol o farddoniaeth Waldo Williams, bydd Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo eleni’n cael ei chynnal yn Llangernyw, Abergele.
Mae hynny’n briodol am fod teulu ei fam, Angharad, yn hanu o’r pentref.
Er iddi gael ei geni yn Market Drayton dros y ffin, roedd ei thad, John, yn frodor o Fro Hiraethog, fel yr arferid ei galw, ac yn frawd i’r athronydd Syr Henry Jones.
Mae’r gerdd ‘Cymru’n Un’ yn cydnabod bod y fro yn gymaint rhan o wneuthuriad Waldo ag oedd y Mynydd Du yn Sir Gâr a’r Preseli yn Sir Benfro.
Traddodir y ddarlith eleni - y seithfed – gan y Prifardd Ieuan Wyn o Fethesda, Arfon, a hynny ar y testun, ‘Mi welais drefn yn fy mhalas draw’: Beth oedd natur Gobaith Waldo?
Adwaenir Waldo fel bardd y gobaith tragwyddol, ac yn ôl Ieuan Wyn, credai Waldo “y gellid deffro pobl i ymglywed â’u perthynas hanfodol, gyd-ddibynnol â’i gilydd.
Credai y byddai dwysau’r frawdoliaeth hon yn ysbrydoli ymdrech i greu trefn gymdeithasol a gwleidyddol gyda chyfiawnder a heddwch yn teyrnasu o’i mewn.”
Cynhelir y ddarlith ar nos Wener, Medi 30 – union ddyddiad geni Waldo – yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw am 7.30pm.
Yn cymryd rhan hefyd bydd Tecwyn Ifan a disgyblion Ysgol Bro Cernyw.
Cyn hynny am 6. 30pm dadorchuddir plac wrth fynedfa Amgueddfa Syr Henry Jones gan yr hanesydd lleol, John Hughes, i nodi’r cysylltiad rhwng Waldo a’r fro. Bydd llyfryn ar gael hefyd yn cofnodi’r cysylltiad.
Yn y cyfamser, o hyn tan ddiwedd mis Medi, mae Arddangosfa Waldo i’w gweld yn yr Amgueddfa sy’n cynnwys penddelw ohono o waith y cerflunydd, John Meirion Morris.
Mae ar agor ar bnawniau Iau, Gwener, Sadwrn a Gŵyl y Banc rhwng 2 a 4 o’r gloch.
Bydd tâl mynediad i’r noson yn £5 ond am ddim i aelodau o Gymdeithas Waldo trwy ddangos tocyn aelodaeth.