Mwy o Newyddion
Beirniadu gwario £50m ar ddysgu plant i ddefnyddio arfau rhyfel
Cafodd cynllun Llywodraeth Prydain i wario £50 miliwn dros bum mlynedd ar greu mwy o unedau cadéts milwrol mewn ysgolion ei feirniadu’n llym mewn cyfarfod i hybu heddwch yng Nghaerfyrddinyr wythnos ddiwethaf.
Clywodd cyfarfod a drefnwyd gan Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin y dylid gwario’r arian ar godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r angen i hyrwyddo heddwch.
“Byddai gwario’r miliynau o bunnau ar hyrwyddo diwylliant heddwch yn helpu magu dinasyddion creadigol a heddychlon ar gyfer y dyfodol,” meddai’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor.
Cafodd cynnig i alw ar y llywodraeth i ystyried hynny ei dderbyn yn unfrydol gan gynulleidfa o bron i 150 yng nghapel Heol Awst.
Ategwyd y neges yn achlysur ‘Heddwch – rhyw ddydd’ gan Dafydd Iwan trwy rhai o’i ganeuon a’r Prifardd Aneirin Karadog a fu’n darllen y dilyniant o gerddi a enillodd cadair Prifwyl y Fenni iddo.
Llun: Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Cadeirydd Rhwydwaith Heddwch yr Annibynwyr