Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Medi 2016

Dathlu 10 mlynedd ers sefydlu Canolfan Gartholwg gydag Only Men Aloud

Bydd 2016 yn flwyddyn arbennig iawn i Ganolfan Gartholwg gan ei bod yn dathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu.

Fel rhan o’r dathliadau mae nifer o weithgareddau ar y gweill a phen llanw’r dathliadau bydd cyngerdd arbennig gyda Only Men Aloud a Chor O2Five ar Dachwedd 3ydd.

Yn rhan o’r noson byddwn yn gweld ffrwyth llafur prosiect cerddorol arbennig gyda phlant y gymuned.

Dros y ddeg mlynedd ddiwethaf mae dros 20,000 wedi cofrestru ar gyrsiau’r Ganolfan a dros 15,000 wedi dod i weithgareddau’r theatr ac mae’r Ganolfan wedi dod yn rhan ganolog o fywyd y gymuned yn ardal Pontypridd.

Bydd uchafbwyntiau eraill y tymor yn cynnwys Gwyl Llenyddiaeth Plant ar Hydref 22 yn dathlu bywyd Roald Dahl.

Yn rhan o arlwy’r diwrnod mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf bydd sioe deuluol am fywyd Roald Dahl, perfformiad o’r ‘Twits’ gan gwmni Theatr Avant, gweithdai animeiddio, sesiynau creft a chyfle i gynhyrchu ‘Dreambottles’ a phrofi blasau arbennig yn Ffatri Siocled Charlie.

Mae grwpiau’r Ganolfan hefyd wedi dod at ei gilydd i greu eu teyrnged bersonol hwy i Drychineb Aberfan. Bydd yr arddangosfa ?Prosiect Cofio Aberfan (Hydref 12-28) yn cynnwys gweithiau celf, lluniau a cherddi a gynhyrchwyd gan ddysgwyr Canolfan Gartholwg.

Bydd nifer o’r teyrngedau yn atgofion personol gan bobl a oedd yn Aberfan ar ddiwrnod y drychineb ar Hydref 21, 1966.

Dywedodd rheolwr y Ganolfan, Heulyn Rees: "Mae uchafbwyntiau’r ddegawd ddiwethaf yn niferus gan gynnwys perfformiadau gan yr enillydd Grammy Amy Wadge, perfformiadau niferus gan Theatr Genedlaethol Cymru, datganiad gan y delynores frenhinol Hanna Stone a sgyrsiau difyr yn cynnwys goroeswyr yr Holocost.

"Mae ein diolch yn fawr i’r gymuned leol sydd wedi cefnogi’r rhaglen lawn o weithgareddau theatr a’r holl gyrsiau addysg oedolion dros y blynyddoedd."

Rhannu |