Mwy o Newyddion
Elusen camddefnydd alcohol am achub bywydau trwy atal hunanladdiadau
AR Ddiwrnod Atal Hunanladdiad Byd-eang (10 Medi), taflodd yr elusen Alcohol Concern Cymru oleuni ar y berthynas rhwng camddefnyddio alcohol a hunanladdiad.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad, tua theirgwaith y niferoedd sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ar ein heolydd, ac mae llawer o rai eraill yn ceisio terfynnu eu bywydau eu hunain.
Yn aml, mae alcohol yn rhan o hunanladdiad a hunan-niweidio.
Mae’n debyg bod tuag un o bob pump o bobl sy’n lladd eu hunain yn ddibynnol ar alcohol, ac mae pobl sy’n diota’n drwm yn llawer mwy tebygol o ddioddef iselder a phryder – anhwylderau sy’n gallu ysgogi hunanladdiad a hunan-niweidio.
Bydd Alcohol Concern Cymru yn tynnu sylw at y berthynas gymhleth rhwng alcohol a hunanladdiad mewn cynhadledd undydd yn Abertawe.
Cynhelir y diwrnod dan y teitl ‘Achub Einioes’ ar 22 Medi, a bydd y cynadleddwyr yn clywed gan rai o brif arbeingwyr y maes a chânt gyfle i ystyried rhai o’r cwestiynau allweddol – er enghraifft, beth yw’r union gysylltiadau rhwng camddefnyddio alcohol a hunanladdiad, pwy sydd yn y perygl mwyaf, a sut gallwn ni gynnig y gefnogaeth orau i deuluoedd a ffrindiau wedi hunanladdiad.
Dywedodd Andrew Misell, cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru: “Mae Diwrnod Atal Hunanladdiad Byd-eang yn cynnig cyfle i ni ddod ag unigolion a sefydliadau at ei gilydd i ymroi i fynd ati i atal hunanladdiad.
“Rydym ni’n disgwyl y bydd ein cynhadledd yn nes ymlaen yn y mis yn ein helpu i ddeall y berthynas gymhleth rhwng alcohol a hunanladdiad, a’n helpu hefyd i ganfod atebion o ran sut mae mentrau ynglŷn ag alcohol yn gallu lleihau hunanladdiad yng Nghymru.”
Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, fydd prif siaradwr gwâdd y gynhadledd ‘Achub Einioes’.
Meddai: “Gwyddom ni fod alcohol yn ffactor peryglus i unigolion sy’n hunan-niweidio ac ar gyfer hunanladdiad, a dyna pam mae pobl sy’n camddefnyddio alcohol yn flaenoriaeth yn Siarad â Fi 2, ein strategaeth ynglŷn â hunanladdiad a hunan-niweidio.
“Gwyddom hefyd fod cysylltiadau rhwng yfed alcohol yn drwm ac iselder a phryder, a dyna pam mae hi mor bwysig hybu yfed diogel a chall.
“Cyfle da yw’r gynhadledd yma i unrhyw un sy’n gweithio ym meysydd iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau ddod at ei gilydd a thrafod y cysylltiadau cymhleth rhwng camddefnyddio alcohol a hunanladdiad.”
Mae tocynnau ar gyfer cynhadledd Alcohol Concern Cymru, ‘Achub Einioes’, ar gael trwy www.alcoholconcern.org.uk/abertawe2016