Mwy o Newyddion
Lansio teithiau awyr newydd rhwng Caerdydd a Llundain
Heddiw, mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi croesawu teithiau awyr newydd sy’n cael eu darparu ar gyfer cymudwyr a busnesau yr effeithir arnynt gan y gwaith i drydaneiddio’r rheilffordd yn nhwnnel Hafren.
Bydd y gwaith i wella’r rheilffordd yn parhau am 6 wythnos, felly gall teithwyr fanteisio i’r eithaf ar deithiau awyr newydd Flybe rhwng Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain.
Y pris rhataf yw £35 a bydd tair taith ddwy ffordd bob dydd rhwng 12 Medi a 21 Hydref.
Dywedodd Ken Skates: “Mae’r cysylltiadau rhwng De Cymru a De-ddwyrain Lloegr yn hanfodol ar gyfer busnesau a chymudwyr a dw i’n falch iawn o weld bod Maes Awyr Caerdydd yn cynnig ateb i sefyllfa a allai fod wedi achosi oedi costus iddyn nhw.
“Mae’r teithiau awyr hyn yn ddewis cyfleus ac amserol ar gyfer unrhyw un sydd am weithio, fynd ar ymweliad neu gynnal busnes ym mhob pen o’r M4.
Gwn fod llawer o arweinwyr ym maes busnes yn edrych ymlaen yn barod at yr amser a’r arian y byddan nhw’n eu harbed, a hefyd at y cyfleoedd a allai ddod i’w rhan.
"Bydd y teithiau awyr hyn yn ategu’r gwasanaethau bysiau a threnau a fydd yn cael eu darparu yn lle’r gwasanaeth arferol yn ystod y cyfnod dan sylw.
“Os gwelir bod y teithiau hyn yn boblogaidd, deallaf y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i barhau â’r gwasanaeth ar ôl y cyfnod o 6 wythnos.”