Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Gorffennaf 2011

Penderfynol o leihau digartrefedd

Mae'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis wedi cyhoeddi ei flaenoriaethau ar gyfer tai mewn araith ddydd Iau yn Abertawe.

Mewn araith fawr yng nghynhadledd flynyddol Shelter Cymru â’i thema “Ar Ffordd Newid”, dywedodd y Gweinidog wrth y cynrychiolwyr:

“Digartrefedd yw un o’r mathau mwyaf eithafol o allgáu cymdeithasol ac fel Llywodraeth, rydym yn benderfynol o’i leihau.

Gan ategu neges y Prif Weinidog i’r gynhadledd ar ddechrau’r dydd, dywedodd: “Mae cyfuniad o amgylchiadau anodd iawn yn ein hwynebu, gan gynnwys dirwasgiad byd-eang, diweithdra uchel, cynnydd yn y galw am dai fforddiadwy a gostyngiad mawr yng ngwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r cyfuniad hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pobl gyffredin a hefyd ar allu Llywodraeth Cymru i ymateb i’w hanghenion, hynny ar adeg pan mae ein hangen arnynt fwya.”

Gan droi at ei flaenoriaethau ar gyfer ei bortffolio tai, meddai’r Gweinidog: “Rydym am ddatrys y problemau â’r cyflenwad trwy gynyddu nifer y tai fforddiadwy. Bydd hynny’n ein helpu i fynd i’r afael â digartrefedd. Rydym wedi bod yn siarad am ddefnyddio’r system gynllunio’n well a thros y tymor nesaf, byddaf yn gweithio gyda Gweinidogion i ofalu bod y system gynllunio’n ateb y gofyn trwy ystyried yr angen am fwy o dai fforddiadwy.

“Rwyf wrthi’n gweithio gyda swyddogion i edrych ar y protocol ar gyfer rhyddhau tir i weld a oes safleoedd segur gan y GIG yng Nghymru, y Comisiwn Coedwigaeth, y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Eglwys yng Nghymru y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer tai fforddiadwy os mai hynny yw blaenoriaeth yr awdurdod lleol.

Ychwanegodd: “Rwy’n awyddus hefyd i edrych ar fodelau gwahanol o berchnogaeth tai. Rwyf wedi ymrwymo i dreialu cynllun tai cydweithredol neu gydfuddiannol sy’n buddsoddi’n wahanol mewn tai Pwysleisiodd y Gweinidog mor bwysig yw “Cefnogi Pobl”, rhaglen Llywodraeth Cymru i helpu pobl fregus â’u cartrefi a dyywedodd fod y rhaglen Cefnogi Pobl yn hanfodol inni allu wynebu effaith y diwygiadau lles a’r dirywiad economaidd.

“Rwy’n falch bod y rhaglen yn cefnogi 50,000 o bobl y flwyddyn ac yn rhoi gwerth ein harian inni am bob punt Gymreig a werir. Yn ôl un astudiaeth yn Sir Gâr, mae gwerth y costau mae’r rhaglen yn ein helpu i’w hosgoi yn werth ddwywaith cost darparu gwasanaethau’r rhaglen.

“Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd yn cynnig llwybr tymor hir o newidiadau ym maes digartrefedd a llwybr ar gyfer ei leihau. Byddwn yn datblygu’r Cynllun ac yn dal

Rhannu |