Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Medi 2016

Canolfan deulu newydd gwerth £550,000 yn agor yn Nolgellau

Mae canolfan newydd sy’n cyfuno amrediad o wasanaethau hanfodol ar gyfer plant a theuluoedd yn Nolgellau wedi agor yn swyddogol.

Wedi ei leoli yn hen adeilad y 'Drill Hall' yn y dref, mae Canolfan Deulu Dolgellau wedi ei wireddu diolch i waith uwchraddio sylweddol dros £500,000 o fuddsoddiad ac mae bellach yn gartref i'r Cylch Meithrin, grŵp lleol Ti a Fi, Gwasanaeth Dechrau'n Deg Cyngor Gwynedd yn lleol a'r tîm Blynyddoedd Cynnar, clinigau babanod sy'n cael eu harwain gan ymwelydd iechyd, sesiynau Barnado's, y cadlanciau yn ogystal â gofod ar gyfer digwyddiadau lleol eraill.

Agorwyd yn swyddogol gan Brif Weithredwr y Mudiad Ysgolion Meithrin cenedlaethol sef, Dr Gwenllian Lansdown Davies, cafodd dros 150 o blant, teulu a ffrindiau rhagflas o'r hyn sydd gan y ganolfan i’w gynnig yn ystod yr agoriad swyddogol yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, sydd hefyd yn gyfarwyddwr cwmni Canolfan Deulu Dolgellau: "Mae agoriad y ganolfan deulu hyfryd yma yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer plant Dolgellau a’r ardal leol. Dyma benllanw gweledigaeth staff a phwyllgor Cylch Meithrin Dolgellau a blynyddoedd o waith diflino, yn enwedig gan Eirian Davenport ac Eleri Lewis sydd wedi arwain y prosiect.

"Mae’r adeilad hanesyddol hwn yn y dref wedi ei drawsnewid yn adeilad ysgafn bywiog a fydd yn adnodd werthfawr ar gyfer plant a theuluoedd yn ardal Dolgellau.

“Rydym yn ddiolchgar am dros £550,000 o gefnogaeth ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr, Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Cartrefi Cymunedol Gwynedd ac eraill wrth gynorthwyo i sicrhau'r cyfleusterau hyn. Mae hyn wrth gwrs yn ychwanegol i’r £2.5 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer Ysgol Gynradd Dolgellau a’r £4.5 miliwn i’r adnoddau ar gampws Coleg Meirion Dwyfor."

Agorodd yr Ysgol Feithrin gyntaf yn Nolgellau gan grŵp o famau ifanc yn 1977 yn y festri yng Nghapel Tabernacl ac fe wasanaethodd yr ardal yn Arbennig dros y blynyddoedd. Serch hynny, gyda disgwyliadau yn ehangu a gydag anghenion modern am ardaloedd chwarae tu allan, roedd arweinyddion y Cylch Meithrin yn chwilio am gartref newydd i’r grŵp.

Wedi ystyried nifer o opsiynau a chyda’r cyfleoedd i gyfuno nifer o wasanaethau plant a theuluoedd o dan un to yn yr adeilad newydd, aethpwyd ati i ymsefydlu Canolfan Deulu Dolgellau yn adeilad y 'Drill Hall'. Mae'r adeilad, sy'n eiddo i Gyngor Gwynedd wedi ei brydlesu i’r ganolfan deulu.

Meddai Eleri Lewis ac Eirian Davenport, y ddwy a arweiniodd y gwaith o ddatblygu Canolfan Deulu Dolgellau: “Roeddem wrth ein boddau i weld drysau Canolfan Deulu Dolgellau yn agor. Rydym yn credu’n gryf bod lleoli amrediad o wasanaethau plant o fewn un adeilad o fudd i deuluoedd lleol yn ogystal â helpu'r gwasanaethau eu hunain yn eu gwaith o wella bywydau plant a theuluoedd ifanc yr ardal.

"Fel arweinyddion Cylch Meithrin Dolgellau, rydym yn edrych ymlaen at wneud y mwyaf o’n cartref newydd, a fydd o gymorth i ni i sicrhau fod y plant yn cael amrediad o brofiadau sy'n ddisgwyliedig yn y Cyfnod Sylfaen a chan  Estyn. Mae hwn yn amser cyffrous i blant a theuluoedd Dolgellau.”

Mae Canolfan Deulu Dolgellau wedi cael ei gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr, Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Cartrefi Cymunedol Gwynedd a chefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu ardal chwarae allanol.

Llun: Iestyn Pritchard, Swyddog Adfywio Meirionnydd Cyngor Gwynedd; Eirian Davenport, Arweinydd Cylch Meithrin Dolgellau; Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin; Eleri Lewis, Arweinydd Cylch Meithrin Dolgellau; Y Parchedig Angharad Griffiths, Cadeirydd Canolfan Deulu Dolgellau Cyf a'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Rhannu |