Mwy o Newyddion
BBC yn nodi hanner canrif ers trychineb Aberfan
Ar 21 Hydref 1966, llithrodd tomen o wastraff glo ar ysgol a’r tai gerllaw yn Aberfan, gan ladd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant. Dyna’r drychineb waethaf yn ymwneud â phlant yn hanes modern Prydain.
I nodi hanner canrif ers trychineb Aberfan, a gyffyrddodd â chalonnau pobl ledled y byd, mae BBC Cymru wedi cyhoeddi cyfres o raglenni i goffáu.
TELEDU
- The Green Hollow – Hydref, BBC One Wales a BBC Four
Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Michael Sheen, Jonathan Pryce, Siân Phillips, Eve Myles ac Iwan Rheon yn serennu yn The Green Hollow – ffilm ar ffurf cerdd, awr o hyd gan y bardd, y nofelydd a’r dramodydd adnabyddus Owen Sheers. Mae’r cynhyrchiad yn manteisio ar gyfweliadau â’r rhai wnaeth oroesi, rhieni, a phobl fu’n rhan o’r broses achub, llawer ohonynt heb siarad am eu profiadau o’r blaen.
Mae’r ffilm yn defnyddio barddoniaeth, delweddau a cherddoriaeth i edrych ar hunaniaeth y pentref cyn y drychineb ac ar ei hôl. Mae’n ceisio cofleidio gwaddol y drychineb yn ogystal â dathlu cryfder y gymuned heddiw.
Dywed Owen Sheers: “Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i The Green Hollow oedd bod y tîm creadigol yn rhoi llais i’r rhai a fu yno ac yr effeithiodd trychineb Aberfan arnynt.
“Yn ogystal â chofio amgylchiadau a chanlyniadau’r drychineb, daeth yr un mor bwysig i fi greu portread o’r pentref fel ag yr oedd yn 1966 cyn i domen rhif 7 ddymchwel ar Ysgol Pantglas - cymuned fywiog yn ddiwylliannol ac yn economaidd - a hefyd i greu darlun o’r nerth a’r gobaith sydd yn y pentref heddiw.
“Mae pwysigrwydd cofio’r drychineb yn amlwg, ond roeddwn i hefyd eisiau ysgrifennu The Green Hollow oherwydd ei fod yn enghraifft o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fo cymuned yn cael ei dylanwadu gan gorfforaeth. Er bod stori Aberfan yn hanner cant oed, mae dal yn boenus o gyfoes, ac mae yr un mor berthnasol ledled y byd."
Mae aelodau eraill y cast yn cynnwys Karl Johnson, Robert Pugh, Kimberley Nixon, Eiry Thomas, Aimee-Ffion Edwards, Menna Trussler, Matthew Aubrey, Matthew Gravelle, Sharon Morgan, Boyd Clack, Lisa Palfrey, Shelley Rees, Richard Lynch, Matthew Raymond, Amy Morgan a Ryan Owen. Ceir cyfraniadau hefyd gan aelodau’r gymuned ac actorion ifanc lleol.
Cynhyrchir The Green Hollow gan BBC Studios Cymru ar y cyd â Vox Pictures. Caiff ei chyfarwyddo gan Pip Broughton, ei chynhyrchu gan Jenna Robbins, a Bethan Jones yw’r Cynhyrchydd Gweithredol.
- Surviving Aberfan – Hydref, BBC One Wales a BBC Four
Mae’r rhaglen ddogfen Surviving Aberfan, yn cyfuno ffilm archif a phobl heddiw, pob un yn dweud eu stori am golled drasig, goroesi drwy wyrth, ac achub gydag arwriaeth. Mae rhai o’r bobl oroesodd yn siarad am y tro cyntaf am y diwrnod mwyaf dirdynnol yn eu bywydau, a sut maent wedi byw gyda’r atgof am hanner canrif.
Ceir straeon eithriadol sydd heb gael eu dweud o’r blaen am ddiffoddwyr tân, achubwyr a’r plant a achubwyd ganddynt, gan bwysleisio sut mae trigolion Aberfan wedi ymdopi â chanlyniadau’r drychineb.
Caiff y rhaglen ei chynhyrchu gan Steve Humphries o Testimony Films, sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol am ei ffilmiau am 9/11.
- Aberfan - The Fight for Justice - Hydref, BBC One
- Aberfan: y frwydr dros gyfiawnder - Hydref, S4C
Huw Edwards sy’n olrhain hanes y frwydr am gyfiawnder a barodd am ddegawdau lawer. Yn fuan ar ôl y drychineb, roedd pobl yn gofyn cwestiynau sylfaenol. Ai damwain ofnadwy oedd Aberfan, neu drychineb o law dyn y gellid bod wedi ei hosgoi ac na ddylai fyth fod wedi digwydd?
Ychydig dros fis ar ôl y drychineb, dechreuodd Tribiwnlys Ymchwiliad wrando ar dystiolaeth, dan farnwr a aned yn lleol. Dyma’r cam cyntaf yn y frwydr dros gyfiawnder.
Mae’r rhaglen ddogfen yn ystyried y 76 diwrnod o dystiolaeth tribiwnlys sy’n dod yn fyw gan gast o actorion yn defnyddio’r trawsgrifiadau gwreiddiol. Roedd yn broses hynod, lle bu’r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymladd i’r eithaf i wadu y gellid bod wedi rhagweld y drychineb a’u bod nhw’n atebol.
Mae hefyd yn dilyn y brwydrau tanbaid i sicrhau bod y tomennydd glo a oedd uwchben y pentref ac a oedd wedi achosi marwolaeth a dinistr, yn cael eu clirio o'r diwedd. Mae’r rhaglen yn datgelu sut roedd y llywodraeth a’r diwydiant, a oedd dan berchnogaeth y cyhoedd, yn dangos cyn lleied o feddwl o’r hyn roedd y pentref wedi’i ddioddef a sut y rhoddwyd pwysau ar gronfeydd elusennol, a sefydlwyd yn sgil y drychineb, i drosglwyddo arian i glirio’r tomennydd.
Caiff ei chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan Iwan England o Alpha Productions, un a fagwyd yn Aberfan yn yr wythdegau a’r nawdegau.
- Cyngerdd Coffa Aberfan - Hydref, BBC One Cymru, BBC Four, hefyd ar S4C
Bydd BBC One Wales a BBC Four yn darlledu uchafbwyntiau cyngerdd coffa Aberfan a gynhelir yng Nghanolfan y Mileniwm gyda Bryn Terfel, Catrin Finch, David Childs ac Elin Manahan Thomas. Mae’r perfformiad yn adlewyrchu dewrder y bobl a oroesodd a’r galarwyr, a’r cryfder a ddangoswyd gan y gymuned i wynebu’r dyfodol. Bydd y cyngerdd coffa’n cynnwys y dangosiad cyntaf erioed o Cantata Memoria - Er Mwyn y Plant, a gomisiynwyd gan S4C. Cyfansoddwyd y gwaith gan Karl Jenkins, ac ef fydd yn arwain y perfformiad, gyda’r libreto gan y bardd Mererid Hopwood. Caiff ei berfformio gan Sinfonia Cymru, ac yn ymuno â’r unawdwyr mae côr cymysg gyda dros 150 o aelodau, ynghyd â chôr plant o 116 o aelodau.
Yn y cyngerdd, bydd Siân Phillips, Michael Sheen ac Iwan Rheon yn perfformio barddoniaeth a rhyddiaith gan Ifor ap Glyn, Sophie McKeand a’r Athro Peter Stead.
Bydd corau Ysgol Gynradd Ynysowen, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug a Chôr Meibion Ynysowen yn agor y noson. Mae’r cyngerdd yn cael ei gynhyrchu gan Mr Producer. Rondo sy’n cynhyrchu’r rhaglenni teledu.
BBC RADIO WALES
- Aberfan - A Survivor's Journey - Hydref 20, 1.15pm
Mewn taith emosiynol iawn, mae’r rhaglen yn dilyn Gaynor Madgwick, disgybl a gladdwyd yn y rwbel y diwrnod hwnnw ond a oroesodd. Lladdwyd ei brawd a’i chwaer, a oedd mewn ystafelloedd dosbarth y naill ochr iddi. Mae Gaynor yn adrodd ei stori ac yn cwrdd â rhai eraill a fu yn y drychineb ac yn ystyried effeithiau’r diwrnod hwnnw ar ei chymuned ac ar ei bywyd ei hun.
- Aberfan - Covering the Catastrophe - Hydref 21, 1.15pm
Felicity Evans sy’n edrych ar rôl y cyfryngau ar y pryd, a hynny o safbwynt Cymreig a rhyngwladol. Mae’r rhaglen yn gofyn a gafodd y bobl a oroesodd eu trin yn sensitif, a beth oedd rôl y cyfryngau o ran sicrhau cyfiawnder i Aberfan. Mae’r gohebydd Materion Rhyngwladol, Lyse Doucet, yn ystyried sut i gael cydbwysedd rhwng trin cymuned mewn modd tosturiol a gofynion y cylch newyddion.
- Making Sense of Aberfan, Hydref 21, 6.30pm
Dai Smith sy’n gofyn i ba raddau y cafwyd cyfiawnder i’r cymunedau. A gafodd unrhyw beth a ddysgwyd o Aberfan ei drosglwyddo i Dunblane a Hillsborough? Ac allwn ni fyth wneud synnwyr o drychineb o’r fath, neu a oes rhaid i rai cwestiynau aros heb eu hateb?
BBC RADIO CYMRU
- Aberfan – Hydref
Alun Thomas sy’n edrych ar hanes y drychineb, ac yn ystyried yr ymateb ar ôl y digwyddiad. Mae’n siarad gyda phobl a oedd yn Aberfan ar y pryd yn cynorthwyo’r gymuned yn ei galar.
- Yn Naw a Deg Oed - Hydref 17-21
Yn yr wythnos yn arwain at yr hanner can mlwyddiant, bydd Radio Cymru yn dathlu bywydau plant ledled Cymru sy’n 9-10 oed heddiw. Maent yn datgelu beth sy’n bwysig i'w cenhedlaeth nhw - beth maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd, pa gemau maen nhw’n eu chwarae a beth sy’n eu gwneud yn hapus ac yn drist. Caiff yr eitemau eu darlledu’n ddyddiol ar raglen Bore Cothi am 10.45am a’u hailddarlledu am 12.30pm ar Hydref 21.
BBC RADIO 3
- Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio yn Neuadd y Brangwyn, fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe ar Hydref 8, 7.30pm, (a ddarlledir ar BBC Radio 3 ar Hydref 21) i gofio pobl Aberfan. Mae Louis Lortie yn perfformio’r Ail Goncerto i’r Piano gan Camille Saint-Saëns, sef cyfansoddwr a gollodd ddau fab yn eu babandod; ac yna gwaith newydd a gomisiynwyd gan Wŷl Ryngwladol Abertawe a BBC Radio 3, lle mae testunau newydd gan Dr Rowan Williams yn cael eu gosod gan y cyfansoddwr ifanc o Gymru, Joseph Davies. Daw’r cyngerdd i ben gyda’r Requiem gan Fauré. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i bbc.co.uk/now.
BBC RADIO 2
Bydd BBC Radio 2 yn darlledu rhaglen ddogfen arbennig (ar Hydref 19 am 10pm) gyda’r diddanwr chwedlonol, Max Boyce, i gofio’r drychineb. Yn y rhaglen ddogfen emosiynol hon, mae Max yn ail-ymweld ag Aberfan i gwrdd â Chôr Meibion Ynysowen a ffurfiwyd yn y pentref yn sgil y drychineb er mwyn canfod y swyddogaeth sydd ganddo yno o hyd ar ôl yr holl flynyddoedd.
Bydd y rhaglen yn edrych ar arwyddocâd y côr, nid yn unig i’r drychineb ond hefyd i'r cantorion. Bydd Max yn siarad gyda nhw i geisio deall beth mae cerddoriaeth a bod yn aelod o gôr yn ei olygu iddyn nhw, ac edrychir wedyn ar stori Max ei hun a’i deimladau ef.
Llun: Michael Sheen