Mwy o Newyddion
Y canwr gwerin Seth Lakeman i ganu caneuon newydd yng ngŵyl Gorjys Secret Conwy
Bydd dilynwyr y canwr gwerin Seth Lakeman, a enwebwyd am Wobr Mercury, ymysg y cyntaf ym Mhrydain i glywed traciau o’i albwm ddiweddaraf, pan fydd yn eu canu yng ngŵyl Gorjys Secret.
Mae’r digwyddiad ar Medi 17 yn cael ei gynnal ar dir ysblennydd Gwesty Neuadd Caer Rhun, ac mae’n dathlu gwaith canwyr-gyfansoddwyr ar draws y sbectrwm cerddorol.
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan gwmni digwyddiadau newydd a sefydlwyd gan bedwar partner sy’n gobeithio rhoi hwb i’r economi leol, ac mae’n cael ei chefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Go North Wales, Syrffio Eryri, Zip World a Chelfyddydau Engedi.
Ymysg yr artisitiaid fydd yn ymddangos yn yr ŵyl mae Marcus Bonfanti, y gitarydd blues nodedig sydd wedi chwarae gyda Robert Cray a Chuck Berry, y cyn aelod o Squeeze a’r gitarydd gwerin Nick Harper, pencapwr bît bocsio’r byd Bellatrix, y lleisydd blues Katey Brooks, y pedwarawd o Dde Cymru Climbing Trees, y cyn-fysgiwr o Seattle Tom Butler a’r ddeuawd We Were Strangers o Fanceinion.
Hefyd yn perfformio fydd cyd-sylfaenydd yr ŵyl a’r drymiwr Gavin Mart ynghyd â’r digrifwr Tudur Owen, y gitarydd acwstig Paul Bodwyn Green, a Sera y gantores o Gaernarfon, tra bydd yna hefyd sesiynau “Yn cyflwyno…” ar gyfer artistiaid newydd. Mae’r parti ar ôl y sioe yn cynnwys DJ Radio One Dave Pearce, cwrw crefft a bar gin.
Mae canu ac ysgrifennu caneuon yn gelfyddyd y mae Seth wedi ei meistroli, a bydd yn canu caneuon o’i albwm newydd Ballad of the Broken Few - sy’n cael ei rhyddhau y diwrnod cyn iddo ymddangos yng Ngŵyl Gorjys Secret - cyn iddo berfformio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, Neuadd Ffilharmonig Lerpwl, Neuadd y Dref Birmingham ac Eglwys Gadeiriol Derby.
Mae’r offerynwr dawnus, sydd ymysg ei ganeuon wedi ysgrifennu baled gyfer cyfres Midsomer Murders ITV, wedi addo ei ddilynwyr y bydd ei set yng Nghaer Rhun yn cynnwys rhai caneuon newydd, ynghyd â hen ffefrynnau.
Dywedodd: “Byddaf yn perfformio a chwarae caneuon o fy ngwaith solo dros yr 11 mlynedd diwethaf yn ogystal â rhai caneuon o’r albwm newydd. Mae pobl sy’n adnabod eich gwaith bob amser yn awyddus i glywed y caneuon maen nhw’n gyfarwydd â nhw ac rwyf wrth fy modd yn eu perfformio beth bynnag.
“Rydw i’n sicr yn edrych ymlaen at berfformio yn yr ŵyl hon - mae’n wych chwarae mewn gŵyl sy’n benodol ar gyfer canwyr-gyfansoddwyr.”
Ychwanegodd: “Mae sgwennwyr caneuon yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, rwyf i’n tueddu i chwarae o gwmpas gyda syniad a gobeithio cael ffit gyda pha bynnag offeryn rwy’n ei chwarae, boed yn ffidil, bouzouki, gitâr, banjo neu beth bynnag.
“Mewn gwirionedd mae’n golygu ceisio gwneud synnwyr gyda chorff o waith a’i roi i gyd at ei gilydd. Weithiau gall fod yn broses gyflym iawn ond ar adegau eraill gall gymryd hydoedd ac weithiau rwy’n teimlo nad ydw i byth yn ei gael yn iawn.”
Mae Seth, sy’n hanu o Ddyfnaint, wedi perfformio yng ngogledd Cymru o’r blaen, ond mae’n awyddus i ymweld yn amlach.
Dywedodd: “Rwyf wedi bod i Ynys Môn ychydig o weithiau ac rwyf wedi perfformio yng ngogledd Cymru mewn gwahanol leoedd, ond mae yna gysylltiad Celtaidd ac mae’n ardal yr hoffwn archwilio mwy ohoni.
“Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o fisoedd yr haf yn perfformio mewn gwyliau cerdd, ym Mhrydain a thu hwnt. Dyna rwy’n ei wneud, ac mae’n rhywbeth rwyf wastad yn ei fwynhau.
“Fodd bynnag, bellach mae gan fy ngwraig a minnau efeilliaid tair oed, bachgen a merch, felly nid yw mor hawdd ag y bu. O’r blaen mi fyddwn yn pacio fy magiau a symud o gwmpas heb ofal yn y byd, ond fedra i ddim gwneud hynny mwyach.
“Ond mae gen i’r pleser a ddaw o efeilliaid. Maen nhw’n hoffi cerddoriaeth. Rwy’n cael ymateb ganddyn nhw nawr ac mae ganddyn nhw eu ukuleles eu hunain, felly gobeithio y byddan nhw’n tyfu i garu cerddoriaeth werin gymaint â minnau."
Dywed Seth ei fod ef a’i ddau frawd, Sam a Sean, wedi tyfu i fyny ynghanol cerddoriaeth werin gan fod eu rhieni yn rhedeg clwb gwerin yn Plymouth.
Meddai: “Nid dyna oedd y cyfan roeddwn i’n gwrando arno, roeddwn yn gwrando ar ddigon o ddawns, jazz, roc trwm, bandiau fel AC/DC ac ati, sef bron iawn pob math posib o gerddoriaeth. Ond mae gwreiddiau i ganu gwerin ac rwyf bob amser wedi caru’r dyfnder yna sydd gan gerddoriaeth werin.
“Wrth gwrs mi ddechreuais chwarae cerddoriaeth ac offerynnau amrywiol gyda fy rhieni a’m brodyr o oed cynnar iawn. Mae cerddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth werin, bob amser wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ac mae’n debyg mai felly y bydd hi i mi.
“Mae llawer o gerddoriaeth werin yn dod o draddodiad llafar, atgofion ac eiliadau ym mywydau pobl. Rwy’n mwynhau gweithio gyda chaneuon gwerin a’u cymysgu gydag arddulliau gwahanol.”
Dechreuodd Seth, sydd bellach yn 39 oed, berfformio gyda Sam a Sean fel The Lakeman Brothers, gan ryddhau eu halbwm cyntaf, Three Suite Piece, yn 1994.
Yna mi wnaeth y tri wahodd dwy gantores o Swydd Efrog, Kathryn Roberts a Kate Rusby, i ymuno â nhw a ffurfio band gwerin Equation cyn rhyddhau tair albwm a theithio’n helaeth ar draws y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau.
Gadawodd Seth Equation yn 2001 a rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, The Punch Bowl, a gynhyrchwyd gan Sean, yn 2002.
Yn 2004 rhyddhawyd Kitty Jay, ei ail albwm unigol, a gyrhaeddodd statws arian yn y DU, ac mae’n parhau i fod y gwaith y mae fwyaf balch ohono.
Dywedodd: “Morwyn ifanc o Dartmoor oedd Kitty Jay a gafodd ei hun yn feichiog ac, oherwydd y gwarth cyflawnodd hunanladdiad. Cafodd ei chladdu ar Dartmoor ac roedd yna bob amser flodau ffres ar ei bedd er na wyddai neb pwy oedd yn eu rhoi yno.
“Roedden nhw yn ymddangos yno bob bore. Hyd yn oed heddiw mae blodau ffres yn ymddangos ar ei bedd ac mae’r dirgelwch yn parhau. Dyna beth yw hanfod cerddoriaeth werin, sef adrodd straeon. Mae’n ymwneud â phwysigrwydd geiriau ac adrodd stori drasig.”
Ychwanegodd: “Ar ôl yr ŵyl yng ngogledd Cymru rwy’n mynd nôl i’r Almaen am ychydig o wyliau cerdd, ac yna mae gen i daith 25 diwrnod yn y DU wedi ei threfnu ar gyfer Tachwedd a Rhagfyr - mi fydd hynny’n hwyl gyda’r efeilliaid! - yna ym mis Ionawr dw i’n mynd i America i berfformio mewn ychydig o gigs.”
Ychwanegodd: “Mae’n fywyd breintiedig mewn sawl ffordd, teithio o gwmpas a pherfformio fy ngherddoriaeth fy hun. Wrth gwrs, gyda phlant mae dipyn yn wahanol erbyn hyn, ychydig yn galetach, ond fyddwn i ddim ei newid am y byd.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at Ŵyl Gorjys Secret ac rwy’n edrych ymlaen hefyd i gael cyfle i ddathlu canwyr-gyfansoddwyr a chlywed gwaith pobl eraill.”
Sefydlwyd cwmni digwyddiadau Gorjys gan Gavin Mart gydag Anna Openshaw, Tansy Rogerson a Jonathan Hughes.
Gavin hefyd a greoedd bar a lleoliad 3RDSPACE, menter gymdeithasol ym Mragdy’r Gogarth, Builder Street, Llandudno.
Dywedodd Gavin: “Fel partneriaid mae’r pedwar ohonom yn cymryd rhan flaenllaw ac rydym yn ymrwymedig iawn i wneud i’r ŵyl fod yn achlysur go arbennig.
“Mae hwn yn ddathliad gwirioneddol o ganwyr-gyfansoddwyr, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y bobl sy’n ymddangos. Roeddem yn awyddus i arddangos artistiaid sy’n mynd ar daith, yn hytrach na bandiau arena mawr. Mae’n golygu bod yr artistiaid yn dod o gefndir cerddorol amrywiol iawn, felly mae yma rywbeth ar gyfer pawb.
“Mae hon yn ŵyl i bawb, teuluoedd, ffrindiau, ac mae’n addas i bob oed - roeddem am greu rhywbeth a fyddai’n rhoi hwb i’r economi yn yr ardal hon, a dyna’n union rydym yn ei wneud.
“Bydd yna gynhyrchwyr bwyd lleol, gyda chwrw crefft wrth gwrs, yn ogystal â stondinau arddangos crefftwyr. Hefyd rydym am iddo fod yn ddigwyddiad rhwydweithio busnes, lle gall pobl ymlacio a chyfarfod ag eraill, o ystod eang o gefndiroedd, y gallant weithio gyda hwynt yn y dyfodol.
*Gorjys Secret, Gwesty Neuadd Caer Rhun, Conwy, dydd Sadwrn Medi 17. Tocynnau a mwy o fanylion ar gael yn gorjys.com