Mwy o Newyddion
Tafell deimladwy o fywyd y Cymoedd yn dod i Ogledd Cymru o Efrog Newydd
Daw adlais o hanes bywyd y cymoedd glofaol i un o theatrau mwyaf eiconic gogledd Cymru mis nesa – yn syth o lwyfan theatr yn Efrog Newydd lle bu sêr Hollywood Sigourney Weaver, Bill Murray a Susan Sarandon yn ymddangos.
Perfformir The Good Earth gan Gwmni Motherlode yn Theatr y Stiwt, yn hen bentref lofaol Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, am un noson, ar nos Iau Hydref 6.
Dyma beth ddywed adolygiad y New York Times: “This 80-minute play flies by. Comic and celebratory, melodic and mournful, it’s an elegy for a place that’s not dead yet.”
Mae’r ddrama yn sôn am bentref yn y 70au sydd yn brwydro yn erbyn bygythiad o du’r Cyngor, y byd busnes a thensiynau o fewn y gymuned ei hun.
Cyflwynir y ddrama drwy gyfrwng y Saesneg ond ceir cefndir cerddorol Gymraeg yn defnyddio recordiad o’r 60au gyda Merêd, Dr Meredydd Evans yn perfformio caneuon gwerin Cymru.
Cenir y caneuon hefyd, heblaw am un gân, gan aelodau’r cwmni yn y Gymraeg. Doedd hyn yn malio dim ar adolygwr y New York Times ddisgrifiodd y gerddoriaeth gefndirol: “the gorgeous, often solemn a cappella soundscape”
Mae The Good Earth newydd gael tair wythnos lwyddiannus tu hwnt yn y ‘Flea Theater, Manhatten Isaf, Efrog Newydd, canolfan enwog ar bwys Broadway, gyda lle i 74 dan ofal y Cyfarwyddwr Artistig Jim Simpson, gŵr Sigourney Weaver.
Mae’r Cwmni yn disgwyl llawer iawn mwy yn y gynulleidfa yn y Stiwt, theatr a chanolfan gymunedol ysblennydd a adeiladwyd drwy gyfraniadau’r glowyr yn nyddiau anodd y 20au, gan agor yn1926.
Gyda’r Stiwt dan fygythiad i gau yn y 90au, daeth y bobol leol at ei gilydd gan symud ymlaen gyda £2.1 miliwn o bres Loteri, i ail agor yr adeilad yn 1999. Mae blwyddyn dathlu’r 90 yn cychwyn nawr Medi 2016.
Yn ystod mis Medi, mae 300 o gadeiriau’r theatr yn cael eu gwisgo mewn brethyn newydd, prosiect cyntaf mewn cyfres o fuddsoddiad sylweddol yn ystod blwyddyn y dathlu.
Mae perfformiad The Good Earth yn un o uchafbwyntiau’r rhaglen dathlu ac ar ôl bod yn Efrog Newydd, bydd y ddrama ar daith yng Nghymru.
Mae Cyfarwyddwr Motherlode, Rachael Boulton yn dweud: “Mae mynd â’r ddrama The Good Earth i’r Unol Daleithau yn un o brofiadau anhygoel i Gwmni Motherlode.
"Mae’r derbyniad gwresog i’r stori a’r chwilfrydedd i wybod mwy am y Gymru ôl-ddiwylliannol wedi ein hysbrydoli i ddatlygu’r gwaith. Rydym wrth ein boddau yn paratoi gydweithio gyda’r Stiwt ar ein prosiect nesaf ym mis Tachwedd."
Cyd-destun y ddrama yw digwyddiadau real a gychwynnodd yn 1973 pan orchmynwyd pentrefwyr Troedrhiwgwair, Tredegar, Blaenau Gwent, i adael eu cartrefi oherwydd peryg tirlithriad.
Ond gwrthwynebwyd hyn gan y pentrefwyr penderfynol a bu gwrthdaro barhaodd am genhedlaeth gyfan.
Mae gan thema’r ddrama felly arwyddocad arbennig i bobol Rhos, pentre lofaol, lle mae’r Stiwt – adeilad gwerthfawr sydd wedi dylanwadu ar fywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal am ddegawdau, wedi ymladd brwydrau lu i gadw’r trysor ar agor i bawb.
Yn ôl Sioned Bowen,un o’r Ymddiriedolwyr,: “Mae yna berthynas naturiol rhwng y cymunedau glofaol ar draws Cymru, felly mae The Good Earth yn siwtio’s Stiwt yn wych.
"Mae’n rhan o raglen uchelgeisiol, llawn cyffro, i ddathlu’r 90eg a gyda seti newydd eu harwisgo, rydym yn barod i groesawu pawb i theatr foethus wrth symud ymlaen i ddathlu’r 100fed.”
Mae Rhaglen y 90 yn cychwyn nôs Sadwrn, 24 Medi gyda Chyngerdd Gala gan Gorau Rhos. Mae’n achlysur lle byddwn yn croesawu tri o fechgyn enwog y pentre yn ôl atom i ddathlu gyda phawb.
Ar ddiwedd y cyngerdd, bydd yr arweinydd byd enwog Owain Arwel Hughes yn arwain y corau gyda’u gilydd, y pianydd penigamp byd enwog Llŷr Williams, a’r cyflwynydd celfydd – yr impresario amal dalentog Stifyn Parry.
Daw Motherlode yn ôl i’r Stiwt ym mis Tachwedd am fis i gynnal gweithdai, sgyrsiau er mwyn rhoi cyflwyniad at ei gilydd am fywyd a gwaith y polymath o Gymro Dr Meredydd Evans - MERED.
Mae cwmni arall yn dod am gyfnodau o bedair wythnos gyda ffocws ar ddawns - Cwmni Striking Attitudes. Bydd Cwmni Cascade yn perfformio un ddawns i ddathlu canmlwyddiant ‘Einstein’s Theory of Relativity’ ar 22 Tachwedd.
Cefnogir y Stiwt gan Gyngor Cymunedol Rhos, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Celfyddydau Cymru.
I weld Rhaglen llawn y Stiwt, ewch i http://stiwt.com/
Llun: The Good Earth yn y ‘Flea Theater’, Efrog Newydd, o’r chwith, Rachael Boulton, Michael Humphreys, Anni Dafydd, Kate Elis a Gwenllian Higginson