Mwy o Newyddion
Rhewi cyllid S4C? Datganoli yw'r ateb yn ôl Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gynnig y BBC i rhewi ei gyfraniad ariannol i S4C tan 2022.
Dywedodd Curon Wyn Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Ar yr ochr bositif, mae'r cyhoeddiad yn cynnig rhywfaint o sicrwydd ariannol am rai blynyddoedd.
"Ond, ar y llaw arall, mae toriadau llym eisoes wedi bod ac mae rhewi yn golygu bod rhagor o doriadau termau real ar y ffordd.
"Mae gwir angen cynllun sy'n mynd i adfer cyllideb i S4C i'r lefel cyn y dirwasgiad, nid drwy ddatganiadau fan hyn a fan draw gan y BBC yn Llundain ond drwy drafodaeth ddemocrataidd ac agored yng Nghymru.
"Rydyn ni'n parhau i'r Llywodraeth ail-sefydlu fformiwla ariannu mewn statud a fyddai'n cynnig sicrwydd go iawn, diogelu annibyniaeth y sianel ac yn galluogi S4C i ehangu i fod yn fwy na darlledwr un sianel yn unig.
"Cafodd S4C ei sefydlu o ganlyniad ymgyrchu hir gan bobl Cymru ac aberthodd nifer eu rhyddid drosti; nid lle swyddogion yn Llundain yw penderfynu ar ei dynged.
"Mae'n hen bryd i ddarlledu cael ei ddatganoli i Gymru.
"Mae'r datganiad yn dod ar adeg rhyfedd: ble mae fe'n gadael adolygiad annibynnol y sianel mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu ei gynnal flwyddyn nesa?
"Beth yw diben yr adolygiad os yw rhan o gyllideb y sianel eisoes wedi ei phennu gan y BBC?"
Llun: Curon Wyn Davies