Mwy o Newyddion
Rhewi cyllid S4C tan 2022 yn 'fanteisiol gymharol' yn ôl cadeirydd y sianel Huw Jones
Mae Cadeirydd S4C Huw Jones wedi ymateb i'r newyddion y bydd cyllid S4C yn cael ei gadw ar yr un lefel tan 2022.
Derbyniodd Huw Jones lythyr gan Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Rona Fairhead ddoe yn cadarnhau y bydd cyllid S4C yn cael ei gadw ar ei lefel bresennol sef £74.5m hyd at ddiwedd y cytundeb presennol ar ffi’r drwydded yn 2022.
Ar raglen Y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd Huw Jones: "Mae cael y rhewi yma yn fanteisiol gymharol.
"Yn y cytundeb rhwng y BBC a'r Llywodraeth yn ôl yn 2015 mi roedd 'na sôn am dair blynedd o ddehongliad o'r gyfatebiaeth gyda'r drwydded, wel mae hwn rŵan yn mynd â ni bum mlynedd ymlaen, sydd hefyd yn werth ei gael.
"Mae'r hyn sydd yn digwydd yn hanes siarter y BBC yn digwydd rŵan.
"Mi fydd siarter y BBC a'r cytundeb fframwaith rhwng y Llywodraeth a'r BBC yn cael ei gyhoeddi yn ystod y dyddie neu'r wythnosau nesa felly roedd hi'n bwysig iawn cael cytundeb be fyddai yn cael ei grybwyll yn y dogfennau yna ynglŷn â S4C, a dyma sy'n cael ei ddweud yn fa'na.
"Mae adolygiad annibynnol S4C yn mynd i edrych ar holl gyllido S4C, holl amcanion a gweithrediad S4C, ac yn edrych ymlaen hefyd gobeithio at beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cytundeb pum mlynedd yma ddod i ben, beth fydd y broses y bydd ysgrifennydd gwladol y dyfodol yn ei ddilyn i bennu cyllido S4C, a'n bod ni ddim yn cael penderfyniadau mympwyol, efallai, gan wleidyddion, ond yn hytrach bod yna broses ddiffyniadwy amlwg y gellid ei dilyn."
Llun: Huw Jones