Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Medi 2016

Gyrru am Oes - academydd yn herio mythau ynghylch diogelwch gyrwyr hŷn

Mae ymchwil newydd wedi ymddangos sy’n herio sawl hen fyth ynghylch gyrwyr hŷn.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe’n dweud nad yw gyrwyr hŷn yn beryglus mewn gwirionedd ac na fydd eu profi nhw’n gwneud y ffyrdd yn fwy diogel, yn groes i’r farn gyffredin.

Dywed wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae’n hanfodol i ni ailfeddwl am bolisïau diogelwch ar y ffyrdd  ar gyfer pobl hŷn ac archwilio datrysiadau newydd cyn gynted ag y bo modd. 

Dywed Dr Charles Musselwhite o Ganolfan Heneiddio Arloesol y Brifysgol fod ei ymchwil yn dangos bod pobl hŷn yn gymharol ddiogel o’u cymharu â grwpiau oedran eraill.

Mae hefyd yn pwysleisio na fyddai cyflwyno dulliau profi llymach yn chwynnu’r gyrwyr mwyaf peryglus.

Mae adolygiad o wledydd â phrofion llymach i yrwyr hŷn yn dangos ychydig o wahaniaeth yn y cyfraddau gwrthdrawiadau ar gyfer gyrwyr hŷn, sy’n awgrymu nad yw’r profion yn gwneud llawer o wahaniaeth i ymddygiad gyrwyr yn y tymor hir.

Dywed Dr Musselwhite: “Mae fy ymchwil yn awgrymu er bod pobl yn meddwl bod pobl hŷn yn beryglus ar y ffyrdd - nid yw hyn yn wir.

"Mae pobl hefyd yn meddwl y bydd profi pobl hŷn yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel - ond nid yw hyn yn wir ychwaith.”

Mae ei ymchwil hefyd wedi canfod bod angen gwella dulliau teithio amgen i yrru er mwyn diogelu pobl hŷn sy’n gorfod rhoi’r gorau i yrru, gan fod y newid hwn mewn ffordd o fyw’n gysylltiedig â dirywiad enfawr mewn iechyd a lles, gan gynnwys: iselder, teimladau o straen ac arwahanrwydd.

Gallai rhoi’r gorau i yrru hefyd fod yn gysylltiedig â chyflymu marwolaeth.

Tra bod pobl hŷn yn cyfrif am 19% yn unig o weithgarwch cerddwyr, maent yn cyfrif am 40% o farwolaethau cerddwyr ac 21% o’r bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol.

Gall amgylchedd cerddwyr fod yn beryglus i bobl hŷn gan fod palmentydd sydd heb eu cynnal yn dda, neu balmentydd nad ydynt wedi’u trin yn ddigonol mewn amodau rhewllyd neu lithrig yn gallu lleihau gallu pobl hŷn i fynd allan.

Hefyd, nid yw croesfannau ffyrdd wedi’u dylunio gyda phobl hŷn mewn golwg gan nad ydynt yn caniatáu digon o amser i groesi.

Fel rhan o’i ymchwil edrychodd Dr Musselwhite ar ystadegau sy’n awgrymu bod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ar y ffyrdd.

Gallai ymchwil ar eiddilwch a llesgedd ddarparu esboniad ar gyfer y cynnydd hwn, gan fod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad oherwydd eu bod yn fwy tueddol i gael anafiadau. 

Mae hefyd yn herio dehongliadau o ddata STATS19 a gasglwyd gan yr heddlu yn lleoliad gwrthdrawiadau, sy’n awgrymu bod pobl hŷn yn fwy tebygol o fod ar fai na gyrwyr ifainc wrth droi i’r dde ar draws traffig.

Nodwyd er eu bod yn cadw golwg am yrwyr eraill, maent yn methu â gweld a barnu cyflymderau gyrwyr eraill.

Fodd bynnag, yn ôl ymchwil Dr Musselwhite, nid yw hyn yn wir.

Meddai Dr Musselwhite: “Mae fy ymchwil yn awgrymu nad yw pobl hŷn yn gwneud y camgymeriadau hyn wrth yrru os nad ydynt yn teimlo dan bwysau oherwydd gyrwyr eraill.

"Mae pwysau go iawn neu os ydynt yn meddwl bod pobl eraill yn rhoi pwysau arnynt yn gwneud i bobl hŷn wneud y camgymeriadau hyn ac os cânt ddigon o amser i feddwl yn iawn, yna maent yn gwneud llai o gamgymeriadau.

"Y datrysiad i hyn a hefyd unrhyw newidiadau gwybyddol sy’n gysylltiedig â heneiddio gan gynnwys newidiadau mewn cof gweithredol, sylw a gorlwytho gwybyddol yw gyrru’n fwy araf ac ar adegau penodol o’r dydd."

Hefyd mae datrysiadau ar gyfer y rhai sy’n rhoi’r gorau i yrru. Mae’n bosibl y gallai technolegau megis ceir heb yrwyr chwarae rôl wrth helpu pobl i wneud trawsnewidiad mwy esmwyth i roi’r gorau i yrru.

Hefyd mae tystiolaeth bod y bobl hynny sy’n addasu’n well ar ôl rhoi’r gorau i yrru yw’r rhai a gynlluniodd wneud hynny ac a oedd wedi dechrau edrych ar ddulliau amgen o gludiant.

Meddai Dr Musselwhite:  “Er bod yr addewid o geir heb yrwyr ymhell i ffwrdd, mae angen i ni edrych ar sut y gall technoleg gefnogi, gwella neu gymryd lle gyrru ar gyfer pobl hŷn. 

"Er enghraifft, technolegau sy’n cymryd dros rywfaint neu’r rhan fwyaf o’r gyrru a allai helpu wrth oresgyn rhai o’r problemau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, a allai gynnig cyfleoedd newydd ar yr amod bod y dechnoleg yn hawdd ei chynnal.”

Rhannu |