Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Medi 2016

Prawf newydd a allai chwyldroi diagnosio canser

Mae prawf gwaed newydd wedi’i ddatblygu a allai ganfod canser yn gynharach nag erioed o’r blaen.

Dywed yr ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a greodd y prawf y bydd yn newid y ffordd y caiff canser ei ddiagnosio a gallai achub miliynau o fywydau.  

Dywed y tîm yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe gan fod y prawf yn seiliedig ar brawf gwaed syml, gallai gael ei ddefnyddio i ganfod canser mewn cleifion nad ydynt wedi’u diagnosio.

Byddai’n cael ei ddefnyddio i sgrinio pobl sydd mewn perygl neu sy’n asymptomatig, sy’n golygu y gallai ganfod canser hyd yn oed cyn i’r symptomau ddechrau ymddangos.

Yn ôl y tîm, os bydd y prawf yn cyflawni’r hyn a addewir yn y data addawol a grëwyd hyd yn hyn, gallai achub miliynau o fywydau gan fod diagnosis cynnar yn hanfodol ar gyfer cyfraddau goroesi.

Mae’r Athro Gareth Jenkins sy’n arwain yr astudiaeth wedi bod yn  trafod ei ganfyddiadau yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe yr wythnos hon.

Mae’r prawf ei hun yn cymryd ychydig o oriau i’w wneud yn y labordy a gellir ei gynnal mewn unrhyw adran batholeg safonol gan ei fod yn defnyddio offer labordy safonol.

Bu ymchwilwyr yn optimeiddio’r prawf hwn dros y pedair blynedd ddiwethaf mewn dros 300 o unigolion gan ddefnyddio canser yr oesoffagws fel enghraifft.

Roedd yr astudiaethau’n cynnwys rheolyddion iach, cleifion a chanddynt gyflyrau cyn-ganseraidd a chleifion a chanddynt ganser. 

Roedd modd i’r prawf wahaniaethu rhwng gwirfoddolwyr iach a chleifion a chanddynt gyflwr cyn-ganseraidd yn yr oesoffagws, a’r rhai a chanddynt ganser ei hun.

Meddai’r Athro Jenkins, sy’n arwain yr astudiaeth: “Mae’r prawf yn canfod newidiadau, a adwaenir fel mwtadiadau, mewn proteinau ar arwyneb celloedd gwaed coch.

"Mae’r proteinau siwgraidd hyn yn gweithredu fel “Felcro” i lynu proteinau adnabod celloedd wrth arwyneb y celloedd.

"Mewn celloedd sydd wedi mwtadu, mae’r “Felcro” ar goll ac felly mae’r celloedd yn “noeth” ar gyfer y protein dan sylw.

"Mae staenio celloedd gyda gwrthgyrff fflwroleuol ar gyfer y proteinau adnabod celloedd yn gwahaniaethu rhwng celloedd normal a rhai sydd wedi mwtadu sy’n caniatáu i amledd celloedd sydd wedi mwtadu gael ei gyfrifo fesul person.”

Mewn unigolion rheolydd iach, canfyddir ychydig yn unig o gelloedd sydd wedi mwtadu ym mhob miliwn o gelloedd gwaed coch (cyfartaledd ~5 y filiwn), ond mewn cleifion canser gall hyn godi dros ddengwaith (i 50-100 o gelloedd sydd wedi mwtadu ym mhob miliwn).

Mewn cleifion sy’n cael cemotherapi, sy’n derbyn cyffuriau sy’n achosi mwtaniadau DNA yn fwriadol, gall y lefelau fod yn eu cannoedd fesul miliwn. 

Yr hyn sy’n ddiddorol yw nad yw’r mwtadiadau celloedd gwaed coch hyn yn chwarae rôl uniongyrchol wrth i ganser ddatblygu.

Maent yn ganlyniad anuniongyrchol a gynhyrchir yn y celloedd gwaed cylchredol fel isgynnyrch o ganser sy’n datblygu’n fewnol.

Budd mwtadu celloedd gwaed yw bod modd ei fonitro mewn modd syml, effeithlon ac anfewnwthiol. 

Meddai’r Athro Jenkins: “Mae modd cymharu’r prawf â “synhwyrydd mwg canser” gan nad yw synhwyrydd mwg yn synhwyro presenoldeb tân yn ein cartrefi ond ei isgynnyrch - mwg.

"Mae’r prawf hwn yn canfod canser drwy synhwyro’r “mwg” - y celloedd gwaed sydd wedi mwtadu.

"Mae’r hen ddywediad lle bydd mwg bydd tân hefyd yn berthnasol i 'dim canser heb fwtadu', gan mai mwtadu yw’r prif rym y tu ôl i ddatblygiad canser."

Rhannu |