Mwy o Newyddion
Dysgu'r Gymraeg i gyn Is-ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
Tair blynedd yn ôl ces i fy nghysylltu dros y ffôn gan hen wraig, gyda chynnig annisgwyl a diddorol: “Hoffech chi ddod i’m tŷ unwaith yr wythnos i ddysgu Cymraeg imi?”
Cwrtais, croesawgar, trwsiadus ac wedi cael addysg – dyma rai o’r geiriau i ddisgrifio fy narpar ddisgybles, y Fonesig Margaret Anstee.
Ganwyd Margaret Joan Anstee yn Writtle ger Chelmsford, Essex yn 1926, ond am ddeng mlynedd ar hugain roedd hi wedi byw ar y Gororau, ym Mhowys, tan ei marwolaeth ym mis Awst 2016. Rhwng n dyddiau hyn gwelir bywyd llawn antur, anhygoel ac unigryw.
Ar ôl astudio ieithoedd modern a chanoloesol yng Ngholeg Newnham ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle cafodd hi radd dosbarth cyntaf dwbl, aeth hi, ymhen amser, i weithio gyda’r Cenhedloedd Unedig.
Fesul tipyn, naeth hi godi o’r rhengoedd i ddod yn Is-ysgrifennydd Cyffredinol yn 1987, y ferch gyntaf yn y swydd.
Yn ystod ei hamser gyda’r CU – dros 40 mlynedd – ymwelodd â 130 gwlad a buodd yn byw mewn 15 ohonynt.
Byddai wrth ei bodd mewn lleoedd pellennig ac unig. Teimlai’n gartrefol mewn lleoliadau felly, yng nghwmni pobl frodorol.
Fel rhan arferol o’i gwaith byddai hi’n cymysgu gydag arweinwyr enwog – enwau cyfarwydd megis Fidel Castro, Kofi Annan, Haile Selassie, Jimmy Carter, Harold Wilson, Mihkail Gorbachev, Li Peng, Margaret Thatcher, Salvador Allende, ac yn y blaen.
Gwasanaethodd yn Fienna, Angola, Efrog Newydd, yr Undeb Sofietaidd, Colombia, Chile a Bolivia, ei hoff wlad, ble naeth hi adeiladu tŷ ar lan Llyn Titicaca.
Yn Bolivia roedd hi’n rhoi cyngor a chefnogaeth i sawl arlywydd ar faterion datblygu economaidd. O bryd i’w gilydd roedd ei bywyd mewn perygl – er enghraifft yn Angola yn ystod y rhyfel cartref. Ar yr adeg buodd hi’n bennaeth y genhadaeth cadw heddwch yno.
Yn fynych gweithiodd ym maes addysg, iechyd, iawnderau dynol, ac amddiffyn ffoaduriaid.
Heb unrhyw amheuaeth, mae ei gyrfa arloesol wedi bod yn ysbrydoliaeth i ferched eraill sy’n eisiau gweithio mewn meysydd ‘gwrywaidd’. Noder ei hunangofiant gyda’r teitl ystyrlon ‘Never learn to Type’.Gosododd esiampl o beth sy’n bosibl.
Fe’i gwnaed yn Gymrawd y Coleg Newnham, derbyniodd sawl doethuriaeth er anrhydedd, a daeth yn Fonesig yn 1994 mewn cydnabyddiaeth o’i gwasanaeth yn y Cenhedloedd Unedig.
Yn 1987 daeth Margaret i fyw i Gymru, yn Knill, pentre’ bach iawn ger Llanandras.
O gwmpas y tŷ gwelir gardd ysblennydd gyda bryn a choedwig yn y pellter.
Yr ochr arall i’r bryn roedd fferm ei thad-cu lle cafodd ei mam ei geni a’i magu.
Pob dydd Iau bydden ni’n eistedd yn yr ystafell wydr er mwyn siarad Cymraeg gyda’n gilydd, yr iaith roedd hi’n gobeithio meistroli cyn marw. Roedd hi’n 87 blwydd oed!
Gweithiodd hi’n galed ar y Gymraeg a’r gwaith cartref wythnosol, gyda synnwyr digrifwch bywiog.
Unwaith, wrth iddi geisio mynd i’r afael â chyfieithiad lletchwith, edrychodd arna i a dywedodd: “I’ve not has so much trouble since I was in charge of the Angolan Army.”
Mae’r gwersi, a’i bywyd, wedi dod i ben.
A nawr, yn ei habsenoldeb, dylai Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd yn gyffredinol fod yn falch iawn o ferch mor ddawnus.
Bydd bywyd Margaret Anstee yn parhau i ddylanwadu ar waith dyngarol byd-eang yn y dyfodol.
Gobeithio.