Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Medi 2016

Ymddiriedolaeth y BBC yn cadarnhau cyllid S4C tan 2022

Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Rona Fairhead wedi ysgrifennu heddiw at Gadeirydd Awdurdod S4C, yn cadarnhau y bydd cyllid S4C yn cael ei gadw ar ei lefel bresennol sef £74.5m hyd at ddiwedd y cytundeb presennol ar ffi’r drwydded yn 2022.

Mae’r cytundeb cyllido presennol gyda S4C yn parhau tan fis Mawrth 2017. 

Cyn hyn mae’r Ymddiriedolaeth wedi addo parhau â lefel cyllid eleni hyd at 2018 er mwyn darparu sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y sianel. 

Mae lefel y cyllid hyd at 2022 wedi ei osod gryn dipyn yn uwch na’r lefel gyfartalog a ragwelir (“read across”) ac a gytunwyd gan y BBC gyda Changhellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol fel rhan o’r cytundeb ar ffi’r drwydded yng Ngorffennaf 2015.

Yn ei llythyr heddiw, dywed Rona Fairhead: “Rwy'n ystyried mai dyma’r peth iawn i’w wneud i gydnabod y rôl bwysig sydd gan S4C ym mywyd siaradwyr Cymraeg sy'n talu ffi’r drwydded, ac fel sylfaen gadarn i Awdurdod S4C a Bwrdd newydd y BBC gydweithio yn unol â hi, a chynnal y berthynas hynod gadarnhaol y mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi'i mwynhau gyda chi a’ch cydweithwyr.”

Yn ogystal mae’r Ymddiriedolaeth wedi gofyn am i’r setliad cyllido newydd hwn gael ei gynnwys a’i nodi o fewn Cytundeb Fframwaith newydd y BBC, sy’n eistedd ochr yn ochr â Siarter nesaf y BBC. 

Mae hwn yn gyllid sy’n ychwanegol i’r 10awr o raglenni yr wythnos statudol a ddarperir gan BBC Cymru ar gyfer S4C. 

Gellir darllen y llythyr yma http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2016/s4c_funding_agreement

Rhannu |