Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Medi 2016

Yr effaith gafodd hen ddistyllfa chwisgi Fron-goch ar yr ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon

Bydd cynhadledd un-dydd arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trafod y cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru, gan gynnwys yr effaith gafodd hen ddistyllfa chwisgi yn Sir Feirionnydd ar yr ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon.

Rhwydwaith Ymchwil Cymru-Iwerddon sy’n trefnu’r digwyddiad Ddydd Mercher 14 Medi, gyda chefnogaeth rhaglen canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, Cymru'n Cofio 1914-1918.

Dan y teitl '1916 yn Iwerddon a Chymru', bydd y gynhadledd yn dwyn ynghyd haneswyr blaenllaw yn ogystal â Llysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig i bwyso a mesur y flwyddyn dyngedfenol honno.

Bydd y cynadleddwyr hefyd yn ystyried goblygiadau ehangach digwyddiadau 1916 fel Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a Brwydr y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddadansoddi’r cyd-destunau diwylliannol a gwleidyddol cyferbyniol a sut maen nhw wedi cael eu dehongli a'u coffáu yn y ddwy wlad.

Yn ganolog i drafodaethau’r diwrnod fydd rôl allweddol pentref Fron-goch ger y Bala, yn sgil Gwrthryfel y Pasg ym mis Ebrill 1916.

Gweriniaethwyr Gwyddelig oedd y tu cefn i’r gwrthryfel. Eu bwriad oedd ceisio rhoi terfyn ar reolaeth Prydain ar eu gwlad a sefydlu Gweriniaeth Iwerddon annibynnol ar adeg pan oedd y Deyrnas Unedig yn brysur yn ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi methiant y gwrthryfel, symudodd Llywodraeth y DU 1,800 o garcharorion Gwyddelig i hen ddistyllfa chwisgi Fron-goch, lle roedden nhw’n yn cael eu hystyried yn garcharorion rhyfel. Yn eu plith roedd un o arweinwyr y dyfodol Michael Collins ac Arthur Shields fyddai’n dod yn actor yn Hollywood.

Cyn hir, daeth y gwersyll yn adnabyddus fel "Prifysgol y Chwyldro" gan fod Michael Collins yn rhoi gwersi byrfyfyr mewn tactegau gwerilaidd yno ac yn lledu efengyl chwyldroadol ymhlith y carcharorion.

Mae’r hyn a ddigwyddodd yn ystod 1916 wedi helpu i siapio gyrfaoedd gwleidyddol rhai o ffigurau allweddol bywyd cyhoeddus Iwerddon y cyfnod ac mae enw Fron-goch yn dal i atseinio yn hanes y frwydr dros annibyniaeth Iwerddon.

Un o brif siaradwyr y gynhadledd yw Daniel Mulhall sy’n Llysgennad Iwerddon i Brydain Fawr: "Mae gan Fron-goch le arbennig iawn yn hanes Iwerddon modern, oherwydd mai yno y  treuliodd 1,800 o garcharorion o Iwerddon gyfnod ffurfiannol wedi Gwrthryfel y Pasg. Cafodd yr amser a dreuliwyd yn Fron-goch effaith fawr ar fywydau’r sawl fu yno a’u cyfraniad diweddarach at frwydr Iwerddon am annibyniaeth.”

Ymhlith y pynciau eraill sydd i'w trafod ar y diwrnod y mae rhai o ddigwyddiadau hanesyddol pwysig eraill 1916, gan gynnwys ethol y Cymro David Lloyd George yn Brif Weinidog y DU. Bydd sylw hefyd i’r ymosodiad costus gan Warchodlu’r 38ain (Cymru) yn ystod brwydr gyntaf y Somme yng Nghoedwig Mametz - digwyddiad sydd wedi ei goffau yn weledol gan yr arlunydd Christopher Williams ac mewn print gan y beirdd Robert Graves a David Jones, a fu’n rhan o’r ymosodiad.

Dywedodd trefnydd y gynhadledd yr Athro Paul O'Leary, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn un o reolwyr Rhwydwaith Ymchwil Cymru-Iwerddon: "Gan fod eleni yn nodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg a Brwydr y Somme, mae'n adeg amserol i edrych ar y cysylltiadau diwylliannol a gwleidyddol agos rhwng pobl Cymru a'n cymheiriaid yn Iwerddon, a dadansoddi sut mae digwyddiadau 1916 wedi cael effaith ddwys ar ein hanes diweddar hyd at y presennol.

"Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cytuno i gymryd rhan, ac am y gefnogaeth yr ydym wedi ei dderbyn oddi wrth Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei gwneud yn bosib i ni gynnal yr hyn a fydd dwi’n siŵr yn profi’n drafodaeth ddiddorol a bywiog iawn."

Caiff y gynhadledd ei chynnal ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Mercher 14 Medi. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ond mae'n hanfodol cadw lle ymlaen llaw.

Mae'r rhaglen lawn, ynghyd â rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gael ar-lein: https://aberhistorystudent.wordpress.com/2016/08/22/1916-in-ireland-and-wales/ a http://www.walesremembers.org/1916-in-ireland-and-wales/

Rhannu |