Mwy o Newyddion
Aelodau Seneddol Gwynedd yn cyfarfod Vodafone i wella signal ffôn ar draws gogledd Cymru
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams ac Aelod Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts AS wedi croesawu ymrwymiad o'r newydd gan gwmni ffôn Vodafone i wella darpariaeth symudol ar draws Gwynedd, er gwaethaf yr heriau a wynebir gan ddarparwyr rhwydwaith wrth uwchraddio seilwaith digidol gwledig.
Yn eu cyfarfod yn San Steffan, gwthiodd y gwleidyddion Plaid Cymru, sydd wedi ymgyrchu'n hir am wella derbyniad ffonau symudol, am welliannau sylweddol i wasanaethau a data symudol ar draws cefn gwlad Gogledd Cymru, yn enwedig y broses o gyflwyno 3G a 4G.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams y dylai BT fod yn gwneud llawer mwy i helpu cwmniau ffonau symudol megis Vodafone ddarparu eu cwsmeriaid gyda signal ffôn symudol cyflym a dibynadwy, a bod y trefniadau presennol yn ‘annerbyniol’.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Roedd ein cyfarfod gyda Vodafone yn adeiladol ac yr wyf yn croesawu eu hymrwymiad o'r newydd i ddarparu fy etholwyr gyda gwasanaeth mwy dibynadwy yn enwedig eu menter i wella signal mewn ardaloedd digyswllt.
“Mae hwn yn fater sy'n cael ei godi dro ar ôl tro gan fy etholwyr ac rwy'n falch o weld darparwyr yn delio â’r anhawsterau hyn drwy fuddsoddi mewn gwelliannau seilwaith digidol.
“Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi sylwi gwelliant amlwg o ran argaeledd gwasanaeth 3G a 4G mewn rhai rhannau o Arfon ac mae hyn i'w groesawu, ond mae nifer o ardaloedd lle mae signal ffôn symudol yn wael iawn a dyma lle mae angen gwelliannau.
“Rwy'n parhau'n siomedig gyda pherfformiad BT wrth hwyluso gwasanaethau symudol y mae pobl mewn mannau eraill yn eu cymryd yn ganiataol. Yn amlwg mae BT wedi cyflawni rhai gwelliannau ond mae llawer o fy etholwyr yn parhau i fod yn anfodlon.”
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae yna nifer sylweddol o rwystredigaethau cyn fod Cymru wledig yn gallu manteisio’n llwyr ar gysylltedd yr unfed ganrif ar ugain, a ddylai gynnwys cymysgedd o signal ffôn, band eang a 4G.
“Ni ddylai materion cynllunio sy’n ymwneud ag uchder mastiau rwystro unrhyw welliannau i’r rhwydwaith a byddwn yn annog pob lefel o lywodraeth i ystyried a allai gostwng trethi busnes ar seilwaith cysylltedd fod yn gymhelliant mewn ardaloedd sydd yn fwy anodd eu cyrraedd.
“Ystyriaeth ychwanegol yw a ddylai’r rhwydwaith gwasanaethau brys a ariennir gan drethdalwyr ac a ddefnyddir gan yr heddlu gael ei ymestyn at ddefnydd darparwyr masnachol er mwyn ehangu darpariaeth cysylltedd.”
Ychwanegodd Graham Dunn, Uwch Reolwr Cysylltiadau Llywodraethol Vodafone: “Mae Vodafone ar hyn o bryd yn cynnal rhaglen fuddsoddi mawr ar draws y DU.
"Rydym wedi buddsoddi mwy na £2bn er 2014 ac yn disgwyl gwario £2bn arall dros y tair blynedd nesaf.
“Bydd hyn yn arwain at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth a gallu symudol ar draws y DU, gan gynnwys yn Arfon a Dwyfor Meirionnydd.
“Dylai ein buddsoddiad olygu y bydd y mwyafrif o bobl yn yr ardal yn elwa o fynediad at wasanaethau rhyngrwyd symudol.
"I gyflawni'r amcanion hyn bydd angen cyfuniad o ganiatâd cynllunio ar gyfer safleoedd, cytundebau cynaliadwy gyda darparwyr safle a mynediad at gysylltiadau ffibr o ansawdd da.”
Llun: Liz Saville Roberts AS a Hywel Williams AS gyda Graham Dunn, Uwch Reolwr Cysylltiadau Llywodraethol Vodafone yn San Steffan