Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Medi 2016

Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Llangefni – addysg ar frig yr agenda

CYNHELIR rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangefni fis nesaf gyda ffocws ar sicrhau bod holl ysgolion y sir yn addysgu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg.  

Mae nifer o ysgolion Ynys Môn yn parhau i ddarparu addysg sy’n golygu bod plant heb y gallu i gyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg wrth adael y system addysg. 

Rhwng 2009 a 2013 buodd cwymp yng nghanran y disgyblion 14 mlwydd oed a gafodd eu hasesu yn iaith gyntaf i lawr i 62% ar yr ynys.

Dyw 30% o blant y sir ddim yn sefyll yr un arholiad TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg ychwaith.  

Yn Sir Gaerfyrddin, mae gan y cyngor gynllun i wella darpariaeth pob ysgol fel bod yr addysg yn gyfan gwbl Gymraeg drwy symud ysgolion i fyny categorïau ieithyddol.  

Bydd nifer o siaradwyr lleol yn annerch y dorf yn y rali a fydd yn cael ei gynnal am 2 o’r gloch, ddydd Sadwrn, 8 Hydref yn Sgwâr Bulkley yng nghanol dref Llangefni.

Wrth siarad am y cais llwyddiannus i gynnal rali flynyddol genedlaethol y Gymdeithas yn y dref, meddai Menna Machreth, cadeirydd rhanbarth Gwynedd-Môn y mudiad: “Mae’n gyffrous iawn bod y Gymdeithas wedi dewis cynnal y rali flynyddol yn Ynys Môn a hynny flwyddyn cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i’r sir.

“Yn sicr, fedrwn ni ddim parhau efo cyfundrefn addysg sy’n amddifadu cymaint o’n plant o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg – pam ar wyneb ar ddaear ydy cymaint â thri ym mhob deg o’n plant yn y sefyllfa yma?  

“Mae’n gwbl anfaddeuol yn y 21ain ganrif – ac mae rhaid i’r cyngor sir ateb am eu diffyg uchelgais.

“Mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau bod pob un plentyn yn cael addysg gyfan gwbl Gymraeg eu hiaith er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod. 

“Mae hefyd diffyg cynllunio addysg yn y sir yn wyneb datblygiadau enfawr Land & Lakes, y Cynllun Datblygu Lleol a’r mewnlifiad os daw Wylfa B. 

“Mae’n rhaid i’r gwleidyddion fynd i’r afael â hyn.”   

Wrth siarad am ymgyrch genedlaethol y mudiad i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r system bresennol o ddysgu Cymraeg i’n plant yn amddifadu oddeutu 80% neu 27,000 o bobl ifanc Cymru o’r iaith bob blwyddyn.

“Mae angen newidiadau radical i’r system nid twtio ar yr ymylon. 

“Dywedodd yr arbenigwr Yr Athro Sioned Davies mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2013 bod angen diddymu Cymraeg Ail Iaith gan sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg ac un cymhwyster newydd i bob plentyn yn ei le.

“Yn y tair blynedd ers cyhoeddiad adroddiad ‘brys’ Yr Athro Davies, does prin ddim byd wedi newid.

“Mae’n hanfodol bod dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn dod i ben yn 2018 gan sefydlu un cymhwyster cyfun i bob disgybl yn ei le.”  

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith am 10.30 y bore dydd Sadwrn, 8 Hydref yng Nghlwb Y Wellman’s, Llangefni LL77 7JA a’r Rali am 2 o’r  gloch y prynhawn yn Sgwâr Bulkley. 

Llun: Menna Machreth

 

Rhannu |