Mwy o Newyddion
Leanne Wood yn mynnu 'Dull Pedair Cenedl' i ymdrin â thrafodaethau Brexit
Bydd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru yn arwain dirprwyaeth o'i phlaid i Frwsel i drafod y negodi sydd ar droed ar gyfer ymadawiad y DG o'r UE.
Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn dweud y dylid cael "Dull Pedair Cenedl" i ymdrin â'r trafodaethau Brexit a fyddai'n golygu pennaeth pedwar llywodraeth y DG yn goruchwylio'r negodi, yn hytrach na dim ond y Cabinet Prydeinig.
Bydd Ms Wood hefyd yn ategu ei safbwynt y dylai unrhyw gytundeb Brexit gael sel bendith pedair deddfwrfa'r DG cyn cael ei weithredu.
Cyn y cyfarfodydd gyda chenadaethau'r UE o wledydd o bwys i Gymru, bydd Arweinydd Plaid Cymru hefyd yn amlinellu ei barn y dylai Cymru gynnal yr hawl i sefydlu perthnasau cadarnhaol gyda gwledydd yr UE.
Bydd hi hefyd yn rhybuddio y bydd dyfodol y DG hefyd dan amheuaeth os nad yw anghenion gwahanol wledydd y DG yn cael eu bodloni.
Dywedodd Leanne Wood: "Yn ystod y cyfnod hwn i Gymru, mae'n hanfodol ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn parhau i drafod gyda sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.
"Er lles Cymru, dylid parhau i gyfathrebu gyda phartneriaid yr UE am fod Cymru'n parhau i fod angen perthnasau masnachu a diwydiannol gyda gwledydd eraill yn Ewrop.
"Rhaid i'r perthnasau yr ydym wedi eu hadeiladu rhwng ein gwledydd oroesi Brexit.
"Mae aelodaeth Plaid Cymru o Gynghrair Rydd Ewrop ers yr 1980au wedi bod yn werthfawr i ni fel plaid.
"Mae hefyd wedi helpu i gynyddu proffil Cymru.
"Byddwn yn parhau i gryfhau'r cysylltiadau diwylliannol a gwleidyddol hyn beth bynnag ddaw yn sgil Brexit.
"Mae Plaid Cymru yn cefnogi Dull Pedair Cenedl o ymdrin a'r broses o'r Deyrnas Gyfunol yn gadael yr UE.
"Mae gan bob cenedl ei hanghenion a'i blaenoriaethau penodol, economiau gwahanol a demograffeg gwahanol ac mae'n rhaid cydnabod a chynnwys y rhain, nid eu hanwybyddu.
"Mae Theresa May, Prif Weinidog y DG, wedi nodi y bydd hi'n cynnwys y llywodraethau datganoledig, ond nid yw hi wedi amlinellu sut hyd yn hyn.
"Heb os, bydd amheuaeth ynghylch dyfodol y DG fel gwladwriaeth os nad yw pobl a gwleidyddiaeth yr Alban, Cymru, a gogledd Iwerddon yn cael eu hystyried a'u cydnabod.
"Byddai Dull Pedair Cenedl yn arwydd o ffordd newydd a chynhwysfawr o wneud busnes."