Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Medi 2016

Y Prif Weinidog yn dymuno'n dda i sêr chwaraeon Cymru yng Ngemau Paralympaidd Rio

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dymuno'n dda i athletwyr Paralympaidd Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer y gemau yn Rio de Janeiro.

Meddai'r Prif Weinidog: "Bydd cynrychiolaeth gref o Gymru yng ngemau Paralympaidd Rio dros y pythefnos nesaf, gyda 10% o dîm Paralympaidd Prydain yn dod o’n gwlad ni.

"Ar ôl llwyddiant ysgubol mewn amryw o chwaraeon yn y gemau Olympaidd, mae'n wych gweld bod ein hathletwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o gystadlaethau, o Saethyddiaeth ac Athletau i Gleddyfaeth a Rygbi Cadair Olwyn.

"Mae dawn ac ymroddiad ein athletwyr Paralympaidd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

"Drwy gael eu dewis i gynrychioli tîm Prydain yn y gemau Paralympaidd maent yn profi bod penderfyniad a gwaith caled yn gallu arwain at gyflawni pethau mawr.

"Rwy'n siŵr y bydd eu hymdrechion yn ysbrydoli llawer o bobl i fynd amdani drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a dechrau symud mwy.

"Pob lwc i sêr Cymru a thîm Paralympaidd Prydain – mae'r wlad gyfan yn eich cefnogi ac ry'n ni'n edrych ymlaen at weld perfformiadau gwych unwaith eto!"

Llun: Bydd Rachel Morris, a enillodd fedal efydd mewn cystadleuaeth feicio yn Llundain 2012 yn cystadlu yn y rhwyfo eleni
 

Rhannu |