Mwy o Newyddion
Cynghorwyr yn diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth i fynychwyr Gŵyl Rhif 6
Mae Cynghorwyr Gwynedd, Gareth Thomas a Selwyn Griffiths wedi canmol cymunedau Penrhyndeudraeth, Porthmadog a'r ardal gyfagos am gefnogi ymwelwyr aeth i drafferthion yn dilyn y problemau a gododd yn nigwyddiad Gŵyl Rhif 6 Portmeirion dros y penwythnos.
"Dwi’n falch iawn o’r gymuned leol a'r ardal gyfagos yn ystod y dyddiau diwethaf,” eglura Gareth Thomas, Cynghorydd Penrhyndeudraeth fu’n trafod â staff ac ymwelwyr ym Mhorthmadog ddydd Llun.
"Mae pobl leol wedi gweithredu'n gyflym i gynorthwyo ymwelwyr i'r digwyddiad, a oedd yn methu gadael y safle oherwydd bod rhannau o’r meysydd parcio dan ddŵr.
"O fewn 45 munud o gyhoeddi mesurau gweithredu cynllunio argyfwng gan Gyngor Gwynedd i gefnogi trefnwyr yr ŵyl, roedd staff Canolfan Hamdden Glaslyn wedi agor eu drysau i gynorthwyo mynychwyr yr ŵyl.
"Sicrhawyd bod lleoliad sych ar gael iddynt gyda dillad gwely, a chyda cefnogaeth yr archfarchnad leol, Tesco, daeth bwyd a diod i’r bobl hynny a fethodd a gadael safle’r Ŵyl."
Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths sy'n cynrychioli'r trigolion Porthmadog ar Gyngor Gwynedd: "Daeth ffermwyr a chontractwyr lleol i’r safle gyda'i tractorau a'i peiriannau gyriant pedair olwyn i ddechrau'r broses o dynnu cerbydau oddi ar y safle a hynny mewn amgylchiadau anodd iawn oherwydd y glaw trwm a’r llanw uchel a welwyd dros y penwythnos.
"Gweithiodd pobl gyda’i gilydd i gefnogi trefnwyr yr ŵyl gan sicrhau bod pobl a phlant mewn amgylchedd diogel, cynnes, sych ac wedi eu bwydo.
"Hoffwn ddiolch yn arbennig i wirfoddolwyr o’r Groes Goch a deithiodd i'r ardal i gynorthwyo ac ni allai ganmol digon ar staff y cyngor, pobl leol a'r gymuned ehangach ym Mhenrhyn, Port a Gwynedd am gyd-dynnu.
"Yn ystod fy amser ar y safle ddydd Llun, roedd mynychwyr yr ŵyl yn hynod ddiolchgar am yr haelioni a’r caredigrwydd a ddangoswyd iddynt gan bobl leol a gynigiodd help llaw iddynt yn ystod anawsterau’r penwythnos," esboniodd y Cynghorydd Griffiths.
Yn ôl y ddau Gynghorydd: "Yn ddi-os bydd angen i’r trefnwyr ddysgu gwersi, cynnal trafodaethau ac edrych ar fesurau penodol i’w rhoi ar waith ar gyfer y dyfodol.
"Ond am y tro, hoffem dalu teyrnged i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u gweithredoedd caredig tuag at eu cyd-ddyn yn ystod y tywydd garw a darodd y digwyddiad."