Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Medi 2016

Paralympiaid Cymru'n gobeithio cynnal eu llwyddiant am ennill medalau

BYDD cymysgedd o bencampwyr Byd ac Ewropeaidd, a hefyd Paralympiaid sy’n cystadlu am y tro cyntaf, yn ceisio cynnal hanes balch llwyddiant elitaidd athletwyr anabl Cymru yng Ngemau  Paralympaidd Rio, sy'n dechrau gyda'r seremoni agoriadol yn Stadiwm Maracana nos Fercher, 7 Medi.

Mae chwech ar hugain o athletwyr o Gymru wedi cael eu dewis fel rhan o sgwad ParalympicsGB o 264 o athletwyr, gan gyfrif am ganran arwyddocaol o 10% o gynrychiolaeth Prydain Fawr.        

Yn Llundain 2012, enillodd 38 o athletwyr gyfanswm o 16* o fedalau, gan gyfrannu tuag at gyfanswm ParalympicsGB o 15** o fedalau.              

Mae Chwaraeon Cymru wedi gosod targed o 20-30 o fedalau Paralympaidd yng Ngemau Rio a Tokyo.

Mae rhai o athletwyr mawr Cymru, fel y Fonesig Tanni Grey Thompson a David Roberts, wedi rhagori mewn Gemau Paralympaidd blaenorol.

Ymhlith y rhai sy’n gobeithio efelychu eu camp yn Rio mae Aled Siôn Davies, Hollie Arnold, Aaron Moores a llawer mwy.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod â 26 o athletwyr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer y Gemau Paralympaidd,” dywedodd Jon Morgan, cyfarwyddwr gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru.

“Mae chwaraeon elitaidd ym Mhrydain Fawr yn eithriadol gystadleuol ac rydyn ni wedi cytuno ar darged gyda Chwaraeon Cymru i fod yn 7% o dîm ParalympicsGB. 

“Mae cael 10% yn braf iawn ac yn glod i’r strwythurau sydd gennym ni yn eu lle a’r tîm sy’n gysylltiedig ac yn cefnogi’r athletwyr.

“Mae para-chwaraeon yn fwy cystadleuol nag erioed ac mae’n fwy a mwy anodd ennill medalau.

“Peth prin iawn yw cael unigolion yn ennill sawl medal erbyn hyn gan fod athletwyr yn arbenigo mewn disgyblaethau unigol.

“Mae gennym ni grŵp o athletwyr sy’n cynnwys pencampwyr byd, pencampwyr Ewropeaidd, deiliaid record byd ac enillwyr medalau Paralympaidd.

“Hefyd mae gennym ni ieuenctid yn eu harddegau fel Sabrina Fortune a Jack Hodgson a fydd yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Paralympaidd.

“Mae’r rhain yn obeithion mawr ar gyfer y dyfodol wrth i ni ddal ati i ennill medalau ar y llwyfan mwyaf.”

Gyda chefnogaeth Chwaraeon Anabledd Cymru, mae mwy na miliwn o gyfleoedd cymunedol i gymryd rhan bob blwyddyn erbyn hyn, a thua 750 o glybiau a bron i 5,000 o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn y byd chwaraeon anabledd yng Nghymru. 

Dywedodd Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd yn Chwaraeon Cymru: “Mae cael eich dewis ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn gyflawniad mawr ac mae’n rhaid i mi longyfarch pob un o’r athletwyr am eu hymrwymiad.                           

“Ers nifer fawr o flynyddoedd, mae ein Paralympiaid ni wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn stori lwyddiannus iawn yn y byd chwaraeon elitaidd.

“Mae ganddyn nhw i gyd gyfle i wneud eu marc yn y Gemau ac i greu mwy o uchafbwyntiau mewn haf sydd wedi bod yn un rhyfeddol hyd yma i chwaraeon yng Nghymru.”

*16 o fedalau unigol yn cyfrannu at 15 medal i ParalympicsGB. **16 o enillwyr medalau gan fod 2 wedi ennill medalau yn ras gyfnewid 4 x 100m y merched.

Llun: Aled Siôn Davies

 

Rhannu |