Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Medi 2016

Rali yn Abertawe i gefnogi ffoaduriaid

Gyda dwy Uwchgynhadledd bwysig ar y gorwel yn Efrog Newydd ble bydd arweinwyr byd yn cwrdd i drafod argyfwng y ffoaduriaid, mae elusennau a phartneriaid yng Nghymru wedi ymuno i drefnu digwyddiad i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Ddydd Sadwrn, 17 Medi bydd pobl ym mhob cwr o’r byd yn ‘Sefyll Fel Un’ i alw ar lywodraethau ledled y byd i wneud mwy i gefnogi ffoaduriaid.

Mae Oxfam Cymru a phartneriaid megis, Achub y Plant, Cymorth Cristnogol, Stand Up To Racism, Alltudion ar Waith, Dinas Noddfa Abertawe a Hope Not Hate yn cyd-lynu digwyddiad yn Abertawe ac yn galw ar y cyhoedd i ddod draw i ddangos eu cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac i ddathlu eu cyfraniad yng Nghymru.

Cynhelir Rali Sefyll Fel Un Cymru yn Sgwâr y Castell, Abertawe o 10.30yb hyd 12.30yp gyda siaradwyr a pherfformwyr yn cymryd rhan.

Gwyliwch y fideo fer hon sy'n dangos sut mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Abertawe yn cyfranu i'r gymuned yn Abertawe wrth wirfoddoli yn Siop Lyfrau Oxfam ar Stryd y Castell: https://www.youtube.com/watch?v=J8V8vOjNWbs&feature=youtu.be
 

Rhannu |