Mwy o Newyddion
Galw am ymchwiliad ar ôl llifogydd maes parcio Gŵyl Rhif 6
Mae Cynghorwyr ym Mhorthmadog, yn galw am ymchwiliad annibynnol i ganfod sut y bu i asiantaethau statudol sy’n gyfrifol am reoli llif Afon Glaslyn ganiatáu i ragor na chwe chant o fodurwyr fu’n mynychu Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion gael eu dal ar ôl i’r afon or-lifo dros faes parcio dynodedig yr ŵyl.
Mae’r Cynghorwyr Jason Humphreys ac Alwyn Gruffydd o Lais Gwynedd eisiau gwybod pam na ddefnyddiodd Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n gyd-alodau o Grŵp Ymgynghorol Llifogydd Lleol, eu grymoedd cyfreithiol i wahardd parcio ar safle sydd â’r duedd i ddioeddef gorlifo ar ôl glaw trwm.
“Roedd proffwydi’r tywydd wedi rhoi digon o rybudd o law echrydus ddydd Sadwrn,” meddai’r Cynghorydd Jason Humphreys, syn cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Porthmadog.
“Ond unwaith eto mae’r asianataethau rheoli llifogydd wedi methu cyflawni eu dyletswydd heb unrhyw ystyriaeth o’r peryglon I bobl ac eiddo.”
Yn ddiweddar honnodd y ddau gynghorydd nad oedd cynnal a chadw digonol ar fesurau atal llifogydd y fro a’u body n cael eu hamddifadu o wybodaeth gan yr asiantaethau rheoli llifogydd.
“Rydan ni’n gwybod for yr asiantaethau yma wedi cyfarfod bythefnos yn ôl i drafod y materion hyn,” ychwanegodd y Cynghgorydd Jason Humphreys.
“Ond nid ydym ni fel cynrychiolwyr etholedig lleol wedi derbyn unrhyw wybodaeth ac mae hynny i ni’n gwbl annerbyniol.”
Mae’r ddau gynghorydd bellach yn galw am adolygiad buan i ganfod pam fod cymaint o wahanol asiantaethau’n ymwneud â rheoli llifoydd yn ardal Porthmadog ac ymchwilad annibynnol i weld beth aeth o’i le.
“Roedd yr asiantathau yma’n ymwybodol o’r peryglon ond ni wnaethant ymateb yn ddigonol,” meddai’r Cynghorydd Jason Humphreys.
“O ganlyniad bu’n dorcalonnus i fodurwyr a thrychinebus i drefnwyr Gŵyl Rhif 6.”