Mwy o Newyddion
Leanne Wood - Angen mwy o bwerau i warchod Cymru rhag polisiau'r Ceidwadwyr
Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud heddiw fod ar Gymru angen mwy o bwerau economaidd os yw hi am warchod ei chymunedau tlotaf rhag polisïau niweidiol Llywodraeth Geidwadol y DG.
Daw galwad Leanne Wood wrth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns ddweud fod ar Gymru angen system newydd o gyllido cymunedau tlotaf y genedl.
Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru fod llywodraethau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan yn gyfrifol am dlodi yn dyddio nôl i'r 1980au ac na ellir ymddiried yn unrhyw lywodraeth Brydeinig i roi buddiannau'r economi Gymreig yn gyntaf.
Dywedodd Leanne Wood: "Mae Plaid Cymru'n cydnabod fod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond rydym yn gwrthod rhethreg y Ceidwadwyr eu bod wedi pleidleisio i ganoli grym yn San Steffan.
"Heb warchodaeth polisi economaidd yr UE o ailddosbarthu cyfoeth, bydd rhai o gymunedau tlotaf Cymru'n gwbl agored i bolisïau niweidiol y Ceidwadwyr yn San Steffan.
"Yr unig ffordd o sicrhau nad yw economi Cymru'n dioddef yn sgil y penderfyniad i adael yr UE yw trosglwyddo mwy o bwerau i Gymru o San Steffan.
"Bydd hyn yn galluogi pobl yn y wlad hon i gael mwy o ddweud ar y materion sy'n eu heffeithio a mwy o rym i wella'r economi pe bai pobl yng Nghymru'n cael rheolaeth dros feysydd megis trethiant, creu swyddi a sicrhau twf economaidd.
"Mae un llywodraeth ar ôl y llall yn San Steffan yn gyfrifol am dlodi sy'n dyddio nôl i'r 1980au - y Torïaid am ddinistrio ein diwydiant a Llafur am beidio gweithredu polisi diwydiannol llwyddiannus i wrthdroi'r sefyllfa.
"Mae ein problemau'n deillio o weithredu ac yna diffyg gweithredu gan San Steffan. Nid ydynt yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd sydd â pholisi o flaenoriaethu'r ardaloedd tlotaf ar gyfer buddsoddiad.
"Nid fydd Cymru fyth yn medru ymddiried yn San Steffan i roi buddiannau'r economi Gymreig yn gyntaf.
"Cafwyd addewid o filiynau o bunnoedd gan yr ymgyrch i Adael yn ystod y refferendwm ond does dim hyd yma'n awgrymu y bydd yr addewid honno'n cael ei chadw.
"Wrth i Fil Cymru ddychwelyd i'r Tŷ Cyffredin yr wythnos nesaf, rwy'n annog ASau o bobl plaid yng Nghymru i gefnogi rhoi cymaint o bwerau a phosib i'n Cynulliad Cenedlaethol.
"Rhaid i Gymru gael y capasiti llawn i roi terfyn ar y tranc economaidd sydd wedi dal ein cenedl yn ei hol am lawer rhy hir. Os na wnawn ni hyn ein hunain, wnaiff neb hyn ar ein rhan."