Mwy o Newyddion
Taith Glera Bardd Plant Cymru: Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2016
Y mis Medi hwn, fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2016, bydd Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn yn cael ei thrawsnewid yn un o feirdd canoloesol y glêr, Anni Flêr ap ClustFawr.
Bydd Anni’n ymuno â rhai o enwogion hanesyddol mwyaf Cymru – Owain Glyndŵr, Mari Jones o’r Bala, Harri Tudur, yr Esgob William Morgan, Yr Arglwydd Rhys ac eraill ar gyfer y dathliad unigryw hwn o hanes a threftadaeth Cymru.
Fe gynhelir yr ŵyl mewn lleoliadau treftadaeth dros Gymru gyfan gyda dros 5,000 o blant yn cael y cyfle i fwynhau oddeutu 120 o sioeau Cymraeg a Saesneg yn ystod mis Medi.
Taith Glera Bardd Plant Cymru fydd un o brosiectau newydd cyffrous yr ŵyl ble bydd Anni Flêr ap ClustFawr yn ymweld â 12 o gestyll Cymru ac yn cynnal sioeau a fydd yn addysgu plant am yr arfer o glera yn yr Oesoedd Canol. Bydd y sioe hefyd yn cynnwys elfennau o weithdy barddoni i gyfoethogi sgiliau llythrennedd creadigol.
Dywedodd Anni Llŷn: “Dyma gyfle gwych i mi ac i blant Cymru fwynhau ein cestyll anhygoel drwy lygaid creadigol.
"Bydd y sioe yn hwyliog ac addysgiadol, a bydd digon o gyfleodd i’r plant gymryd rhan e.e. drwy fynd yn ôl mewn amser a bod yn Dywysog o’r Oesoedd Canol, neu drwy helpu Anni Flêr ap Clustfawr i orffen ei cherdd!”
Cefnogir Taith Glera Bardd Plant Cymru gan gynllun Bardd Plant Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Cadw, Menter Penfro, Cronfa Gelfyddydol Cyngor Gwynedd a Cwmni Da. Bydd yn ymweld â’r lleoliadau canlynol – Castell Rhaglan; Castell Caerffili; Castell Coch; Castell Coity; Castell Llansteffan; Castell Carew; Castell Aberteifi; Castell Fflint; Castell Dinbych; Castell Criccieth; Castell Caernarfon a Chastell Llanfair Caereinion.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym yn hynod falch fod Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn rhoi’r cyfle i Anni Llŷn ddod ag elfen bwysig iawn o hanes llenyddiaeth Cymru yn fyw i blant mewn lleoliadau mor eiconig ac arwyddocaol. Rwy’n sicr y bydd plant dros Gymru gyfan yn cael modd i fyw yn dysgu am y glêr ac yn rhoi cynnig ar gyfansoddi eu cerddi eu hunain.”
Caiff sioeau eraill Gŵyl Hanes Cymru i Blant eu perfformio gan yr actorion Gwion Williams, Llion Williams, Dion Davies, Danny Grehan, Chris Kinahan, Ffion Glyn ac Anwen Carlisle a fydd yn portreadu arwyr megis Yr Arglwydd Rhys, Hari Tudur, Buddug, Yr Esgob William Morgan, Owain Glyndŵr a Mari Jones. Gellir gweld y manylion a’r amserlen yn llawn ar wefan yr ŵyl www.gwylhanes.cymru
Meddai trefnydd yr ŵyl, Eleri Twynog: “Rydym wedi ceisio sicrhau y bydd sioeau yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru eleni, fel y gall cymaint o ysgolion, plant a theuluoedd, â phosib elwa o’r arlwy.
"Mae hanes Cymru yn frith o gymeriadau a straeon difyr, ac rydym yn eithriadol o ddiolchgar i’r holl bartneriaid treftadaeth ac eraill sy’n cefnogi’r ŵyl eleni, gan sicrhau y bydd plant Cymru yn cael cyfleoedd heb eu hail i ddysgu, darganfod a dathlu eu hanes a’u treftadaeth.”
Bydd yr ŵyl yn agor gyda pherfformiad Owain Glyndŵr – Ein Harwr Ni yng Nghastell Harlech ar ddydd Mercher 7 Medi.
Gweler amserlen llawn Gŵyl Hanes Cymru I Blant 2016 ar y wefan