Mwy o Newyddion
Dewis hoff barc y Deyrnas Unedig
Flwyddyn yma, am y tro cyntaf mae nifer uchel o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn gwobr fawreddog, ryngwladol y Faner Werdd, cyfanswm o 161 i gyd.
Rydyn ni gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd parciau i bobl, mae Gwobr Dewis y Bobl yn awr ar agor - ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd i bleidleisio am eu hoff barc neu fan gwyrdd.
Ond mae’n wahanol y flwyddyn yma gan fod Gwobr y Faner Werdd yn ei 20fed blwyddyn.
Yn hytrach nag un enillydd cyffredinol, bydd y 10 uchaf yn cael eu cyhoeddi yn dilyn pleidlais y cyhoedd.
Bydd yn bosib pleidleisio am eich hoff barc neu fan gwyrdd hyd at hanner dydd ar Ddydd Gwener yr 30ain o Fedi.
Bydd y 10 parc a man gwyrdd fwyaf poblogaidd yn y DU yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref. I bleidleisio, ewch i http://www.greenflagaward.org dewis Cymru ar y map rhyngweithiol, dod o hyd i’ch hoff barc neu fan gwyrdd, clicio am ragor o fanylion a chlicio ar y botwn ‘vote for this site'.
Mae Gwobr y Faner Werdd yn bartneriaeth ar hyd y DU, a gaiff ei weinyddu yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus gyda chefnogaeth.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae gennym ni gyd hoff barc, pun ai ein man gwyrdd lleol ydyw neu barc arbennig yr ydyn ni yn teithio milltiroedd i ymweld ag o.
"Pleidleisiwch am eich hoff barc Cymraeg er mwyn sicrhau fod ein mannau gwyrdd hardd, yn derbyn y gydnabyddiaeth y meant yn ei haeddu'r flwyddyn yma.”
Mae pob parc sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a chyfle i fod yn rhan o bleidlais Gwobr Dewis y Bobl. Llynedd gwelwyd mwy na 30 mil o bleidleisiau gan y cyhoedd, gyda Pharc Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dod yn ail, tu ôl i Barc Fictoria, Llundain.
Llun: Parc Margam Park, Castellnedd Port Talbot, a ddaeth yn ail yng Ngwobr Dewis y Bobl yn 2016