Mwy o Newyddion
Gallai ail-agor rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth arbed dros £10 miliwn y flwyddyn o ran delio â damweiniau ffordd yn ôl Traws Link
Mae'r grŵp ymgyrchu i ail-agor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, Traws Link Cymru wedi darganfod ffigyrau dirdynnol am ddamweiniau ffyrdd ar ffyrdd gwledig gorllewin Cymru.
Rhwng 1 Ionawr 2011 ac 31 Rhagfyr, 2015, roedd 437 'anaf' yn dilyn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a 812 gwrthdrawiadau traffig 'difrod yn unig' ar y ffyrdd lleol.
Daeth yr wybodaeth i law gan Heddlu Dyfed-Powys ar 14 Gorffennaf 2016 o ganlyniad i gais Rhyddid Gwybodaeth.
Mae'r ffyrdd dan sylw i gyd o fewn yr ardal a wasanaethir gan y rheilffordd arfaethedig: yr A485, B4459, B4336, A482, A487, B4575, B4340, A4120, A486 a B4337.
Mae'r ffigurau'n cynnwys 11 o farwolaethau, 89 o anafiadau difrifol a 337 o fân anafiadau dros y cyfnod o bum mlynedd.
Maent yn ffigurau brawychus ynddynt eu hunain ac yn amlygu pa mor beryglus yw'r ffyrdd cyflym, cul a throellog yr ardal ar hyn o bryd.
Ar ben hynny, cyhoeddwyd gan ddefnyddio ffigurau'r Adran Drafnidiaeth ar gyfer 2012, mai cost atal y damweiniau hyn i'r gymuned yw £51,325,071 neu gyfartaledd o £10,265,014 y flwyddyn.
Mae'r costau yn cynnwys costau ambiwlans a'r heddlu, costau o ddifrod i gerbydau ac eiddo, costau gweinyddol o yswiriant damweiniau, costau triniaeth yn yr ysbyty, colli allbwn oherwydd anaf a marwolaeth, ynghyd â'r boen dynol, galar a dioddefaint.
Drwy ddyfalu'r gost dros gyfnod o 60 mlynedd, mae'r gwerth atal codi i'r entrychion i £615,900,852 ar brisiau 2012, sy'n cyfateb yn sylweddol i gost o ail-agor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth.
Er na fyddai rheilffordd newydd yn atal damweiniau ac anafiadau ar y ffyrdd yn y dyfodol yn gyfan gwbl, gellid eu lliniaru'n sylweddol pe bai teithwyr yn cael dewis amgen a chadarn i deithio mewn car: rhywbeth nad yw ar gael ar hyn o bryd, yn enwedig o ystyried tranc diweddar o ail fws cwmni yn ardal Ceredigion.
Meddai llefarydd ar ran Traws Link Cymru: "Mae'r ffigurau hyn yn ddychrynllyd ac yn dangos pa mor allweddol yw ail-agor y rheilffordd yma rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.
"Gyda'r gwasanaeth bws 701 bellach wedi ei ddiddymu yn dilyn cwmni bysus lleol yn mynd i'r wal, nawr yw'r amser i fynd ati i sicrhau bod ffyrdd diogelach ac amgenach o deithio drwy Gymru ar gael."