Mwy o Newyddion
Cyfarfod i drafod dyfodol ystâd ddiwydiannol gwag Ferodo Caernarfon
Mae dyfodol un o ‘stadau diwydiannol gwag mwyaf gogledd Cymru yn ôl ar yr agenda wrth i Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian baratoi i gyfarfod â pherchnogion safle hen ffatri Ferodo Dynamex yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun Medi 19 yng Nghaernarfon.
Mae’r safle dau ddeg saith acer, sydd wedi bod yn wag er 2008, bellach dan berchnogaeth cwmni datblygu St Francis Group o Swydd Warwick.
Mae’r safle tir llwyd mewn cyflwr adfeiliedig sylweddol ac mae galwadau bellach yn cael eu gwneud i ddatblygu'r safle cyn gynted ag y bo modd, gyda'r nod o greu swyddi lleol.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae’r safle unigryw yma mewn lle da i ddenu datblygiad o fri, gyda lleoliad heb ei ail ar lannau’r Fenai ynghyd â’i agosrwydd i’r A55 a’r ffordd osgoi arfaethedig.
“Mae’n sarhad i’r gweithwyr a’r undebau a fu’n brwydro’n hir dros eu hawliau, fod y safle yma a arferai fod yn ganolbwynt economaidd yr ardal, bellach yn wag ac mewn fath gyflwr.
“Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar botensial y safle cyn gynted â phosib, yn gyntaf oll fel bod buddsoddwyr posibl yn gweld manteision buddsoddi yng Nghaernarfon a’r ardal gyfagos ac yn ail, fel y gellir manteisio ar unrhyw gymorth o’r UE cyn trafodaethau Brexit.
“Ni allwn ganiatáu i’r safle ddirywio ymhellach, nac o ran hynny dylid ei drosglwyddo at ddibenion masnachol rhad. Mae’n rhaid i ni fanteisio i’r eithaf ar leoliad, maint a photensial economaidd y safle.
“Bydd Siân Gwenllian a minnau yn galw am eglurder ynglŷn â beth yw bwriad y perchnogion gyda’r safle a byddwn yn dadlau’r achos cryfaf posib o blaid denu swyddi sgiliau uchel i’r ardal.”
Dywedodd Siân Gwenllian AC: “Rydym wedi galw’r cyfarfod yma er mwyn deall beth yn union yw bwriad y perchnogion newydd gyda’r safle.
“Mae Ferodo mewn safle gwych ar gyfer creu swyddi newydd. Mae wedi bod yn wag, yn flêr ac wedi ei anwybyddu ers yn rhy hir.
“Byddwn yn cyflwyno’r achos dros ddatblygu’r safle cyn gynted â phosib, gyda’r bwriad o greu swyddi lleol.”
Llun: Safle ffatri Ferodo (©Kev Williams)