Mwy o Newyddion
Galw am dros £100 miliwn ychwanegol er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg
Heddiw, mae mudiad iaith wedi galw am fentrau gwerth dros £100 miliwn er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei tharged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Ymysg y cynigion mewn dogfen fanwl sydd wedi'i hanfon at bwyllgor Cyllid y Cynulliad ac at Lywodraeth Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am gefnogaeth ariannol sylweddol er mwyn sicrhau cynnydd cyflym yn nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg ac yng nghapasiti'r system i addysgu yn yr iaith.
Ymhlith y galwadau mae:
- Cynllun “Dewch 'nôl” i Gymru ar gyfer athrawon sy'n siarad Cymraeg sy’n gweithio mewn gwledydd eraill;
- Sefydlu ac ehangu canolfannau i’r hwyrddyfodiad a throchi ym mhob sir;
- Cynllun i annog siaradwyr Cymraeg i ymuno â'r gweithlu addysg;
- Adnoddau ychwanegol i wella sgiliau rhai sy'n hyfforddi i ymuno â'r gweithlu addysg
Mae'r mudiad hefyd yn galw am nifer o fesurau er mwyn taclo'r tanfuddsoddi difrifol yn y Gymraeg ym meysydd gwariant mawr, er enghraifft, yr angen am gynnydd sylweddol yng nghanran y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.
Mewn dogfen ddiweddar sy'n gosod targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, dywed Llywodraeth Cymru: "Tra bo ein gweledigaeth yn un hirdymor, a bod nifer y siaradwyr yn rhywbeth y gellir ei fesur yn ystyrlon fesul cenhedlaeth, rhaid i ni weithredu a gosod y seiliau nawr. A rhaid i’r gweithredoedd hynny adlewyrchu maint ein huchelgais."
Meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am ei huchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, bydd rhaid cael buddsoddiad sylweddol ychwanegol.
"Fel arall, geiriau gwag yn unig ydyn nhw.
"Argymhellwn fod angen buddsoddiad o dros £100 miliwn ychwanegol er mwyn sicrhau bod targedau'r Llywodraeth yn cael eu gwireddu, a daw manteision economaidd ac addysgiadol yn sgil y buddsoddiad hwn yn ogystal â buddion diwylliannol sylweddol.
"Heb os, ac fel mae'r Llywodraeth yn cydnabod, mae'n rhaid buddsoddi'n sylweddol cyn gynted â phosibl er mwyn creu gweithlu addysg fydd yn gallu creu miliwn o siaradwyr. Mae Gweinidogion wedi dweud hynny eu hunain. Nawr yw'r amser i fuddsoddi, dyma'r cyfle.
"Mae Cymru yn tanfuddsoddi'n ddifrifol yn y Gymraeg ar hyn o bryd ac felly nid ydym fel gwlad yn elwa'n llawn o'r manteision addysgiadol, diwylliannol ac economaidd a allai ddeillio o'n hiaith unigryw genedlaethol.
"Yng Ngwlad y Basg, mae Llywodraeth y rhanbarth ymreolaethol yn gwario tua 1% o'u cyllideb ddatganoledig ar brosiectau i hyrwyddo'r Fasgeg; yma mae'r ffigwr oddeutu 0.16%.
"Yn yr ardal honno, gwelwn fod y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth, ac mae'n bosibl cymharu hynny gydag ardaloedd yng Ngwlad y Basg nad ydynt yn rhan o'r gymuned ymreolaethol."
Mae'r grŵp pwyso hefyd yn dadlau y dylai'r Llywodraeth sefydlu parciau busnes cyfrwng Cymraeg, darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd, a corff newydd i hyrwyddo'r Gymraeg, a dyblu ei buddsoddiad yn rhaglen 'Cymraeg i Blant'.
Llun: Jamie Bevan