Mwy o Newyddion
Ansicrwydd parhaus ynglŷn â dyfodol llwybr bws: Aberystwyth - Caerfyrddin - Caerdydd
Mae cyhoeddi tranc cwmni bysiau o Lanrhystud wedi creu ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y cyswllt bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.
Roedd yr AC dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd i gwsmeriaid ynglŷn â’r gwasanaeth pwysig rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.
Roedd y gwasanaeth bws 701 a rhedai o Aberystwyth i Gaerdydd drwy Gaerfyrddin yn croesi calon y Canolbarth a’r Gorllewin ac fe danlinellodd yr AC o Blaid Cymru pwysigrwydd y gwasanaeth hwn i’r rhanbarth.
Meddai: “Fel preswylydd yn Aberystwyth, rwy’n ymwybodol ar ba mor ddibynnol ydym yn y Gorllewin ar y gwasanaeth bysiau er mwyn sicrhau llwybrau dibynadwy rhwng ein cymunedau ac i alluogi gweithwyr, myfyrwyr a thwristiaid i drafaelu. Ni allwn adael gwasanaeth mor hanfodol i ddod i ben.”
Yn ei ymateb, cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Seilwaith Ken Skates gyda Simon Thomas AC bod y newyddion bod Lewis Coaches am gau yn siomedig dros ben.
Sicrhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Chyngor Ceredigion i leihau’r effeithiau posib ar gyflogaeth leol a’r gwasanaeth bysiau.
Roedd Simon Thomas, Aelod y Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn hapus i glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet bod sawl darpar weithredwr wedi dangos diddordeb mewn ailgyflwyno’r gwasanaeth.
Er hyn, credai bod angen sicrhau datrysiad i’r achos ar frys: “Mae presenoldeb gwasanaeth bysiau cyson rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn angenrheidiol i fusnesau lleol, a dylai’r llywodraeth gwneud llawer fwy i sicrhau bod gweithredwyr newydd yn cael eu darganfod cyn gynted â phosib.
“Mi fyddai’n parhau i wthio Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau lleol a sicrhau gwelliannau i wasanaethau trafnidiaeth rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.”