Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Medi 2016

Apêl ynglŷn â gwersylla yn y gwyllt, tanau gwersyll a sbwriel yn nhwyni Poppit

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Heddlu Dyfed-Powys yn apelio i aelodau’r cyhoedd beidio â gwersylla yn y twyni yn Nhraeth Poppit, yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau pan gynheuwyd tanau gwersyll ac y gadawyd sbwriel.

Cafwyd adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae staff y Parc Cenedlaethol wedi gorfod symud sbwriel o’r ardal droeon, yn cynnwys offer gwersylla a photeli gwydr.

Mae’r twyni yn Poppit yn eiddo i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol ac maent yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Traeth a Chlogwyni Poppit.

Meddai Richard Vaughan, Parcmon yr Awdurdod Parc Cenedlaethol: “Rydym yn siomedig iawn â’r ffordd amharchus y mae pobl yn trin y safle gwarchodedig hwn, sy’n gartref i amgylchedd hynod o fregus.

“Mae’r twyni’n cael eu heffeithio’n barhaus gan wersylla yn y gwyllt a thanau gwersyll, sy’n dinistrio’r lle arbennig hwn yn y Parc Cenedlaethol – lleoliad, y dylid ei warchod i bawb ei fwynhau.

“Byddem yn annog pobl sy’n dymuno gwersylla yn Poppit i ddefnyddio un o’r safleoedd gwersylla gwych a niferus yn yr ardal a’r cyffiniau, yn hytrach na’r twyni.”

Mae safleoedd SoDdGA yn bwysig gan eu bod yn cefnogi planhigion, anifeiliaid a chynefinoedd sy’n brin, yn lleihau neu’n unigryw; maent hefyd yn gwarchod rhai o’r enghreifftiau gorau o ddaeareg Cymru.

Bydd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn patrolio’r ardal yn rheolaidd yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn annog unrhyw grwpiau i beidio â gwersylla yno.

Ychwanegodd Gethin Lewis, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, sy’n rhan o’r tîm plismona lleol ar gyfer Crymych, Llandudoch a Chilgerran: “Hoffai Tîm Plismona Cymdogaeth Crymych atgoffa’r cyhoedd i barchu’r cyfarwyddyd a roddwyd gan y Parc Cenedlaethol ac osgoi gwersylla ar y traeth a’r twyni.

"Wrth gwrs rydym yn awyddus i bawb fwynhau ei hun ond os ceir unrhyw adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu yfed dan oed yna ni fydd wasanaeth yr heddlu unrhyw ddewis ond cymryd camau priodol.

“Hoffem ofyn i bobl wersylla mewn safleoedd gwersylla penodedig yn hytrach nag ar y twyni. Bydd Swyddogion yn patrolio’r ardal yn rheolaidd i geisio atal unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu lefel isel.”

Rhannu |