Mwy o Newyddion
Gareth Môn Jones yn y ras i ennill llun gorau Countryfile
Peiriannydd gwresogi o Langefni yw un o’r deuddeg y dewiswyd eu lluniau ar gyfer calendr y rhaglen deledu Countryfile, BBC One.
Mae Gareth Môn Jones yn ffotograffydd amatur a chafodd ei lun o’r wawr ym Môn ei ddewis o 21,000 o ffotograffau a anfonwyd i’r gystadleuaeth eleni ar y thema ‘O’r wawr i’r cyfnos’.
Hwn yw’r tro cyntaf iddo gystadlu ar ôl iddo ddechrau ymddiddori mewn ffotograffiaeth dair blynedd yn ôl.
Mae wedi gwirioni ei fod wedi ei ddewis ar y cynnig cyntaf ac yn diolch i’r rhai sydd wedi ei gefnogi a’i gynghori ar y daith. Bydd y calendr yn cael ei werthu i godi arian ar gyfer Plant mewn Angen. Drwy godi £2 yr un amdano gwnaed £2 filiwn at yr apêl y llynedd.
Wedi dewis y deuddeg llun ar y rhaglen nos Sul diwethaf yn awr mae’r gwylwyr yn cael dewis pa un yw eu hoff lun. Mae’r gystadleuaeth yn agored tan nos Sul, 3 Medi a gellir pleidleisio dros y ffôn neu ar y we.
I bleidleisio ar y we ewch i: http://www.bbc.co.uk/programmes/articles/4YngJn7gNhlSV6KDT3Nnxm2/countryfile-photo-competition-2016.
Mae’n bosib pleidleisio i ddewis llun Gareth fel y gorau drwy ffonio 09011 989009.