Mwy o Newyddion
Cyllid yn helpu pysgotwyr Cymru
Cafodd diwydiant pysgota Cymru hwb gydag agoriad swyddogol canolbwynt ar gyfer trin, storio a marchnata pysgota ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin.
Ymwelodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd â’r Canolbwynt a gaiff ei redeg gan South Wales Fishermen’s Seafood Supplies Cyf ac sy’n anelu i ddatblygu marchnadoedd newydd a sicrhau pris uwch ar gyfer eu pysgod.
Agorwyd y canolbwynt yn dilyn llwyddiant sefydliad rhiant y cwmni - South & West Wales Fishing Communties Cyf (SWWFC) - yn sicrhau cyllid 100% o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop, cyfanswm o £122,766 (75% o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop a 25% gan Lywodraeth Cymru). Dechreuodd South Wales Fisherman’s Seafood Supplies Cyf fasnachu fel canlyniad.
Mae’r Canolbwynt yn trin amrywiaeth o fathau o bysgod gwlyb yn cynnwys Draenogiaid Môr, Merfogiaid Duon, Hyrddiaid, Mecryll, Cathod Môr, Lledod, Penfras, Maelgwn a Thorbytiaid.
Cyflenwir y pysgod gan bysgotwyr lleol sydd i gyd yn aelodau o SWWFC, sydd wedi ennill gwobr Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas, ac sy’n gweithredu o Gaerdydd i Aberteifi.
Mae’r Canolbwynt yn gobeithio cynyddu ffyniant ariannol ei aelodau, gan brynu’r pysgod gan y pysgotwyr ar bris a gytunwyd – sy’n uwch na’r hyn a gânt pan werthant yn unigol drwy arwerthiannau pysgod.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn i gefnogi cynllun mor bwysig a fydd yn ddi-os yn helpu pysgotwyr Cymru i ateb yr her sy’n wynebu’r diwydiant ym marchnadfa fyd-eang heddiw.
“Mae’r Canolbwynt yn enghraifft ragorol o gydweithredu, gan y caiff ei arwain gan y pysgotwyr eu hunain ac yn eu galluogi i gyrraedd marchnadoedd a arferai fod tu hwnt i’w cyrraedd. Mae cadwyni archfarchnadoedd, er enghraifft, angen cyflenwad rheolaidd a chyson o bysgod mewn cyfeintiau llawer mwy na’r hyn y gall pysgotwyr unigol ei gyflenwi, ond drwy gyfuno ymdrechion medrir cyflawni’r galw yma.”
Mae’r pysgotwyr un ai’n dod â’u pysgod yn uniongyrchol i’r Canolbwynt neu’n trefnu iddynt gael ei gasglu o bwyntiau dynodedig o fewn ardal SWWFC fel y medrir ei ddosbarthu i gwsmeriaid mor ffres ag sydd modd.
Caiff y pysgod wedyn un ai ei werthu drwy arwerthiannau pysgod neu’n uniongyrchol i’r farchnad leol yn cynnwys bwytai, gwestai a gwerthwyr pysgod, a phrif gadwyni manwerthwyr Cymru.
Bu Mike Howells, sy’n aelod o SWWFC, yn pysgota o Borth Tywyn am 35 mlynedd gyda’i ddau fab yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau pysgota o wialen a lein i rwydi clymu yn ei gatamarán 8.5 metr.
Dywedodd Mr Howells: “Mae pysgotwyr yr ardal wedi bod yn aros yn hir am gyfleuster fel hwn. Yn ogystal â gwella’r pris a gaiff pysgotwyr am eu cynnyrch safon uchel, mae hefyd yn darparu gwasanaeth i fwytai a gwestai lleol, gan eu galluogi i baratoi pysgod ffres, ansawdd uchel a ddaliwyd yn lleol.”
Mae’r Canolbwynt hefyd yn datblygu cynllun i drin sgîl-ddaliad a chynnyrch gwastraff ar gyfer y farchnad abwyd, sy’n cynnwys Morgwn, Pengernod a Môrgathod.
Agwedd arall yw datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer gwahanol fathau o bysgod sydd yn ei dro yn helpu i sicrhau galw parhaus am bysgota’r glannau o fewn ardal SWWFC.
Mae SWWFC yn awyddus i amlygu’r dull moesegol a chynaliadwy o bysgod a gaiff eu dal gyda lein, ac mae wedi cyflwyno cynllun tagio draenogiaid môr sy’n ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr ddynodi’r cwch pysgota a’r pysgotwyr a ddaliodd y pysgod drwy’r rhyngrwyd yn www.welshlinecaughtfish.org.uk