Mwy o Newyddion
Medal aur neu'r fedal ryddiaith?
FE fydd athletwyr gorau’r byd i’w gweld yn perfformio’n fyw ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, os y caiff Prif Weithredwr y brifwyl ei ffordd.
Mewn cyfarfod gyda’r BBC yr wythnos ddiwethaf, mae Elfed Roberts, yn y llun, wedi gofyn iddyn nhw ystyried y posibilrwydd o ddangos lluniau o’r Gêmau Olympaidd, a fydd yn cael eu cynnal yn Llundain, ar sgrin fawr ar y Maes yn ystod y brifwyl a fydd yn cael ei chynnal yn Llandŵ ger Y Bontfaen ar yr un pryd yn union.
Mae dyddiadau’r ddau ddigwyddiad – yr Olympics a’r Eisteddfod – yn cyd-daro yn 2012, gyda’r Gêmau yn cael eu cynnal yn Llundain rhwng Gorffennaf 27 ac Awst 12, a’r brifwyl ddiwylliannol ym Mro Morgannwg rhwng Awst 4 ac 11.
“Mae yna bobol wedi gofyn i ni symud yr Eisteddfod a’i chynnal hi yn ystod wythnos arall,” meddai Elfed Roberts wrth Y Cymro, “ond mae ganddon ni ormod o barch at ddigwyddiadau eraill yng Nghymru i wneud hynny.
“Os fasan ni’n symud yr Eisteddfod, mi fasan ni’n siŵr o fwrw rhyw ddigwyddiad arall, yn sioe amaethyddol neu’n ŵyl ddiwylliannol leol. Felly, mae’n rhaid i ni wneud y gorau o bethau.
“Mi faswn i’n apelio ar bobol i wneud y defnydd mwya’ o’u teclynau teledu adra’, a recordio rhaglenni’r Olympics er mwyn gallu dod i’r Eisteddfod,” meddai wedyn.
“Wedi’r cwbl, mae talu £15 am docyn mynediad i’n Maes ni yn mynd i olygu mwy i’r Eisteddfod a’r iaith Gymraeg nag ydi talu am docyn er mwyn mynd i weld yr Olympics… ond dw i’n derbyn hefyd y bydd pobol yn ei weld o fel cyfle unwaith mewn oes i gael gweld y Gêmau.”
Mae Elfed Roberts eto i dderbyn ateb swyddogol gan y BBC, prif bartner darlledu’r brifwyl, ynglŷn â pha mor bosibl fyddai gosod sgrin fawr ar y Maes a bwydo lluniau byw o gystadlaethau Olympaidd a’u darlledu yno.
Y BBC fydd yn darlledu’r Gêmau ar sgriniau gwledydd Prydain.
“Os y medrwn ni wneud hynny,” meddai Elfed Roberts, mi fedr pobol fwynhau’r Gêmau Olympaidd ar un llaw, yn ogystal â’r Olympics fydd yn digwydd yn y Babell Lên.
“Ac mi fedran nhw weld athletwyr gorau’r byd ar y Maes, yn ogystal ag aelodau’r Orsedd neu sêr y Pafiliwn.”