Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Medi 2016

Oxfam Cymru yn galw ar y Cynulliad i graffu ar ddarpariaeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Mae Oxfam Cymru wedi galw ar Bwyllgor y Cynulliad i edrych ar sut mae Cymru wedi ymateb i ail-gartrefu ffoaduriaid o Syria ac i edrych ar ba mor effeithiol yw ein gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Daw'r alwad gan yr elusen union flwyddyn ers i luniau o Alan Kurdi ymddangos yn y newyddion - y bachgen bach teirblwydd o Syria a foddodd wrth geisio croesi i Ewrop o Dwrci. Darganfuwyd ei gorff ar draeth yn Nhwrci.

"Mae ein gwaith rhaglen i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn dangos eu bod, fel grŵp, yn fwy tebygol o ddioddef tlodi," meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru.

"Nid oes gan bobl sy'n ceisio lloches hawl i weithio yn y DU, ac os ydynt yn cael caniatâd i aros a gweithio, nid yw eu cymwysterau a phrofiad gwaith blaenorol wastad yn cael eu cydnabod.

"Mae hyn yn atal pobl rhag gallu defnyddio a datblygu eu sgiliau, cefnogi eu teuluoedd a chyfrannu at gymdeithas - gan arwain at fywyd o dlodi.

"Mae mynediad i wasanaethau cyhoeddus o ansawdd da yn hanfodol i helpu'r teuluoedd hyn ddod yn rhan o gymdeithas a symud ymlaen â'u bywydau.

"Dyma pam rydym yn galw ar y Cynulliad graffu ar ba mor effeithiol yw’r gwasanaethau sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a hefyd i edrych ar ba mor gyflym ac effeithiol mae Cymru wedi ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid presennol."

Mae galwad Oxfam yn cael ei chefnogi gan Gyfarwyddwr Oasis Caerdydd, sefydliad sy'n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio i'w cymunedau lleol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Reynette Roberts, Cyfarwyddwr Oasis Caerdydd: "Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yma yn wynebu rhwystrau sylweddol pan ddaw i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus - pethau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol - fel trafnidiaeth, tai, hyfforddiant a gofal iechyd.

"Er ein bod wedi croesawu’r cyhoeddiad o’r Cynllun Cyflenwi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn gynharach eleni, mae gennym bryderon difrifol am ei ansawdd.

"Fel ar y mae, mae’r Cynllun yn annhebygol o helpu pobl ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn at gymdeithas yma yng Nghymru "

Mae Oxfam Cymru a Oasis Caerdydd yn galw ar Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cymru i graffu ar wasanaethau cyhoeddus ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn ymgynghoriad sy'n dod i ben heddiw.

Rhannu |