Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Medi 2016

Chwalu’r chwedl mai yn y Gwanwyn y dylid prynu cig oen tymor newydd

Mae yna gred gamarweiniol gyffredinol mai’r Gwanwyn yw amser gorau’r flwyddyn i brynu Cig Oen Cymru tymor newydd, yn ôl ymchwil i ddefnyddwyr a gwblhawyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) cyn ymgyrch ‘Wythnos Caru Cig Oen’ (Love Lamb Week) ar draws y DU i hyrwyddo cig oen lleol.

Fel rhan o ymgyrch farchnata ddiweddaraf HCC ar gyfer Cig Oen Cymru PGI, gwnaed arolwg yn ystod taith archfarchnadoedd i ddarganfod beth oedd pobl yn ei wybod a’i ddeall am un o gynhyrchion mwyaf naturiol y wlad.

Dangosodd y canlyniadau mai ansawdd a tharddiad oedd un o’r prif bethau yr oedd siopwyr yn chwilio amdanynt wrth brynu cig coch. Roedd bron 80% yn gwneud ymdrech i brynu cynnyrch Cymreig pan yn bosibl, ond roedd 57.8% yn meddwl mai’r Gwanwyn oedd yr amser gorau i brynu Cig Oen Cymru PGI, er mai yn ystod ail hanner y flwyddyn mae’r cynnyrch ar gael yn helaeth i’w brynu.

Mynd i’r afael â’r camsyniad hwn yw un o brif amcanion ymgyrch farchnata Cig Oen Cymru HCC ym marchnad y DU yn ystod 2016. Tynnwyd sylw at y ffaith bod digonedd o Gig Oen Cymru PGI tymor newydd ar gael i’w brynu yn yr archfarchnadoedd a siopau cigyddion yn ystod taith archfarchnadoedd yn gynharach yn y mis oedd yn ymweld â manwerthwyr mewn lleoliadau yn cynnwys Caerfyrddin, Caerdydd a Bangor.

Mae Jacob Anthony yn Llysgennad Ifanc yr NSA ac yn ffermio efo’i deulu yng Nghwmrisca ger Pen-y-Bont ar Ogwr, ac fe ymunodd â HCC ar y daith.

Meddai: “Cefais fy synnu bod cynifer o bobl yn meddwl mai’r Gwanwyn yw’r amser gorau i brynu Cig Oen Cymru. Ond mae pobl yn awyddus iawn i brynu cynnyrch lleol o safon uchel.

“Roedd cael y cyfle i weld siopwyr wyneb yn wyneb ar drelar coginio HCC ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, ac ymgyrchoedd marchnata fel ‘Calan Awst - Calan Oen’ ar Awst y 1af a ‘Wythnos Caru Cig Oen’ ddechrau Medi, yn gyfle gwych i ymgysylltu â defnyddwyr a siarad am y cynnyrch.

"Mae ein cig oen lleol gwych ar gael yn helaeth yn y siopau yn ystod yr haf a’r hydref, ac os ydi pobl yn gwybod pryd i chwilio amdano, gallai hynny ddylanwadu ar eu tueddiadau siopa a phenderfyniadau’r manwerthwyr.”

Mae ‘Wythnos Caru Cig Oen’ yn ddigwyddiad i hyrwyddo a dathlu cig oen lleol, amlbwrpas o ansawdd uchel, ac fe’i gynhelir rhwng 1-7 Medi.

Meddai Elwen Roberts, Swyddog Defnyddwyr HCC: “Nod ymgyrch farchnata HCC ydi chwalu’r chwedl mai yn y Gwanwyn y dylid prynu cig oen tymor newydd, ac addysgu pobl ar yr amser gorau i’w brynu. Mae ‘Wythnos Cig Oen Cymru’ yn gyfle arall i ledaenu’r neges ymhlith defnyddwyr ledled y wlad.

“Rydym yn galw ar gynhyrchwyr, cigyddion, cogyddion a phobl ym mhob cwr o’r wlad i ymuno â ni dros y saith niwrnod nesaf yn benodol i ledaenu’r neges am y cig oen gwych sy’n cael ei gynhyrchu yn ein gwlad. Mae’n esgus grêt i fwynhau ei goginio a’i fwyta hefyd!”

Gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol hyrwyddo’r cynnyrch ac ymuno yn y sgwrs ar Twitter, Facebook ac Instagram gan ddefnyddio #WythnosCigOen a #LoveLambWeek, gan rannu lluniau o unrhyw weithgaredd neu brydau blasus yn cynnwys cig oen i dynnu dŵr o’r dannedd.

Rhannu |