Mwy o Newyddion
Seren y West End Maggie Preece yn dod i Ogledd Cymru
Bydd yr actores a'r gantores West End, Maggie Preece, yn serennu yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru eleni.
Daeth y soprano i enwogrwydd rhyngwladol am ei pherfformiad cofiadwy o'r Fam Abades yng nghynhyrchiad ysblennydd Andrew Lloyd Webber o The Sound of Music yn y West End, ac mae Maggie hefyd wedi cymryd rhannau nodedig mewn sioeau cerdd poblogaidd o amgylch y byd, gan gynnwys Tsieina, Yr Aifft a Dubai.
Yn awr mae hi'n edrych ymlaen yn eiddgar i ganu yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, lle cynhelir 44fed Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru - gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd - o Medi 17 hyd at Hydref 1.
Mae perfformiad angerddol Maggie o Climb Every Mountain yn The Sound of Music wedi cyffwrdd cynulleidfaoedd a bydd y gân honno ymysg y detholiad o glasuron Rodgers a Hammerstein a gaiff eu perfformio yn Llanelwy.
Meddai: "Mae cerddoriaeth Richard Rodgers wedi bod yn arbennig o agos at fy nghalon, trwy gydol fy oes, gan i mi chwarae rhan un o blant y teulu Snow yn Carousel, fel merch fach yn y Birmingham Hippodrome.
"Pan oeddwn i’n perfformio yn The Palladium, yn Llundain, cefais gymorth sefydliad Rodgers a Hammerstein yn Efrog Newydd i gynhyrchu CD oedd yn cynnwys 16 o drefniadau gwreiddiol a chyffrous o ganeuon gwych Richard Rodgers – wedi eu trefnu gan yr arweinydd talentog Kevin Amos – a ysgrifennwyd gan Rodgers â'i ddau brif gydweithwyr, sef Lorenz Hart ac Oscar Hammerstein.
“Mi wnes i ysgrifennu noson cabaret yn seiliedig ar y berthynas weithio ryfeddol oedd gan Rodgers a’r ddau awdur geiriau a'r corff anhygoel o sioeau a chaneuon oesol a gynhyrchwyd ganddynt.
"Mae ein noson yn yr ŵyl ar Medi 24 yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, yn bennaf seiliedig ar hyn.”
Mae Maggie yn hen ffrind i gyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Ann Atkinson, ers i’r ddwy gyfarfod tra’n gweithio ar long bleser gyda'i gilydd.
Bydd yn perfformio gyda cherddorfa’r NEW Sinfonia, a sefydlwyd gan y brodyr o Wrecsam Robert a Jonathan Guy, ac sydd newydd gael ei dynodi yn Gerddorfa Preswyl 2016 yr ŵyl. Hefyd yn ymuno â nhw am ran o'r noson fydd côr bechgyn Hogiau Cytgan Clwyd, o Ruthun.
Dywedodd Ann Atkinson, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl, fod disgwyl i docynnau ar gyfer y cyngerdd fynd yn gyflym a chynghorodd pobl i archebu’n fuan.
Meddai: "Mae Maggie yn atyniad mawr lle bynnag y mae hi'n perfformio gan fod ei llais mor hudolus ac yn eithriadol o deimladwy.
"Un funud gall hi gymell emosiwn cryf gyda chaneuon fel Climb Every Mountain, y funud nesaf mae hi’n mynd â ni i gyfeiriad llawer mwy direidus mewn cân fel Isn’t it Romantic.
"Fedra i ddim aros i'w gweld hi eto a chymryd fy sedd am ei pherfformiad."
Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i Maggie, a fu unwaith eto yn perfformio rhan y Fam Abades pan aeth The Sound of Music allan i Dubai.
Ac mae newydd ddychwelyd o Tsieina lle bu ar daith mewn cynhyrchiad Americanaidd o My Fair Lady, yn chwarae rhan Mrs Higgins.
Cafodd ei hyfforddi yn Academi Frenhinol Cerdd a Chelfyddyd Drama yr Alban a'r Stiwdio Opera Genedlaethol, gan fynd ymlaen wedyn i berfformio rhannau blaenllaw mewn cynyrchiadau gyda chwmnïau nodedig, yn cynnwys yr English National Opera, Scottish Opera, Opera North a’r English Touring Opera.
Mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd ym myd theatr gerdd ac fel actores, gan gymryd sawl rhan nad oedd yn gofyn iddi ganu.
Bu’n chwarae rhan Carlotta am 18 mis yn The Phantom of the Opera yn Theatr Her Majesty’s yn Llundain.
Yn ogystal â hynny Maggie hefyd fu’n trosleisio canu ar ran Minnie Driver yn ffilm Joel Schumacher o'r sioe gerdd yn 2005, lle cafodd Maggie hefyd ei chastio fel The Confidante. Yn 2011 chwaraeodd ran Jean yn nhaith sioe Dinner Ladies – Second Helpings gan Victoria Wood ledled y DU.
Am lawer o'r llynedd ymunodd â chwmni drama The Pitlochry Festival Theatre, yn chwarae nifer o rannau gwahanol, gan gynnwys Mam yn The Lady in the Van gan Alan Bennett a Lady Bracknell yn The Importance of Being Earnest gan Oscar Wilde.
Meddai: "Rwyf wedi hyfforddi fel cantores opera ac wedi canu llawer o rannau blaenllaw hyfryd gyda chwmnïau opera mawr yn y DU a thramor, ond mae gen i gariad mawr tuag at theatr gerdd ac rwyf wrth fy modd yn actio hefyd.
"Yn naturiol rwy’n mwynhau gweld cymaint o bobl yn dod i’n gwylio yn perfformio ar lwyfannau mawr y byd, ond rwyf hefyd yn hoffi agosatrwydd lleoliad llai a dyna pam rwy’n edrych ymlaen at ganu yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy."
Bydd Maggie yn perfformio dathliad o gerddoriaeth Rodgers a Hammerstein yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, ar ddydd Sadwrn 24 Medi am 7.30yh. Bydd hefyd yn arwain dosbarth meistr lleisiol ar ddydd Gwener, Medi 23 am 10.00yb.
Ar noson agoriadol yr ŵyl, ar ddydd Sadwrn, 17 Medi, bydd y NEW Sinfonia, Cerddorfa Preswyl yr ŵyl, yn perfformio gyda Chôr yr Ŵyl, mewn dathliad o waith y cyfansoddwr John Hosking, gan gynnwys première rhyngwladol o’i Missa pro defunctis.
Bydd diweddglo’r ŵyl ar ddydd Sadwrn, Hydref 1, yn gweld yr athrylith feiolin Tamsin Waley-Cohen yn ymuno â’r NEW Sinfonia mewn rhaglen fydd yn cynnwys première rhyngwladol Sacred Places gan Paul Mealor.
Mae rhaglen yr ŵyl pythefnos o hyd hefyd yn cynnwys cyngherddau gan Miloš Karadagli?, Janina Fialkowska, Cantorion Dyffryn Clwyd, ac Ex Cathedra.
I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ewch i http://www.nwimf.com. Mae tocynnau ar gael o Theatr Clwyd, 01352 701521 neu Cathedral Frames, Llanelwy, 01745 582,929.