Mwy o Newyddion
Chwyldro ym Mae Caerdydd
Cynhelir arddangosfa Chwyldro/Revolution yn Oriel Y Dyfodol, Bae Caerdydd rhwng y 6ed ar 29ain o Fedi.
Cyd-drefnir yr arddangosfa hon gan yr Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Prifysgol Cymru). Mae’n tynnu ar waith y prosiect AHRC, ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’.
Ceir yn yr arddangosfa gyffrous hon gyfoeth o ddeunydd, gair a llun, sy’n archwilio datblygiad trafodaeth wleidyddol yng Nghymru o’r 1790au hyd heddiw.
Mewn llythyrau, baledi, pamffledi a lluniau o archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae lleisiau o Gymru yn datgelu ymatebion amrywiol iawn i ddigwyddiadau yng Nghymru, Ewrop a gweddill y byd.
Honnodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams fod “cenedl” gyntaf y Cymry wedi ymddangos gyda’r chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig; a’r ddemocratiaeth Gymreig gyntaf hefyd.
Mae’r arddangosfa yn edrych ar ymateb Cymru i'r chwyldro Ffrengig. Ceir sôn am ddigwyddiadau'r chwyldro trwy leisiau rhai o’r Cymry oedd yno, trafodaeth am y chwyldro yng Nghymru ac ymdrechion llywodraeth Prydain i geiso atal trafodaeth ar y syniadau radicalaidd.
Edrychir ar rai o brif themau trafodaeth wleidyddol yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif sy'n dilyn gan ganolbwyntio ar ddemocratiaeth, hawliau merched, brwydrau llafur, rhyfel a heddwch, yr iaith Gymraeg, datganoli, ac ymateb Cymru i ddigwyddiadau rhyngwladol.
Trefnwyd dau ddigwyddiad i gyd-fynd â’r arddangosfa hon:
- Nos Fercher 7fed o Fedi bydd lansiad gyda sgwrs gan yr Athro Damian Walford Davies (Prifysgol Caerdydd)
- Nos Fercher 21ain Medi bydd digwyddiad a drefnir gan yr Archif Wleidyddol Gymreig gyda Elin Jones AC Ceredigion.
Meddai Rob Phillips, Archif Wleidyddol Gymreig a Chyd Guradur yr Arddangosfa: “Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn drysorfa o ddeunydd sy'n gwneud hanes gwleidyddiaeth yng Nghymru yn fyw.
"Mae cymaint o bobl wedi cymryd rhan yn y stori hon trwy orymdeithio, protestio, streicio a phleidleisio i geisio newid y byd.
"Mae'r arddangosfa yn gyfle gwych i ni agor yr archifau i bawb weld y dadleuon a'r syniadau sydd wedi tanio ysbryd pobl Cymru dros y ddwy ganrif ddiwethaf.”
Meddai Mary Ann- Constantine, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a chyd Guradur yr arddangosfa: “Mor wych yw cael y cyfle hyn i osod deunydd adeg y Chwyldro Ffrengig mewn perspectif tymor hir; a chyfle amserol hefyd i weld Cymru ei hun mewn cyd-destun Ewropeaidd.
"Mae cyfoeth o straeon yn ymddangos yma mewn gair a llun: rhai yn llygad-dystion i ddigwyddiadau mawr, yn rhannu eu hymatebion trwy bregethau, areithiau a llyfrau; eraill, yn fwy personol, yn rhannu ofnau neu obeithion trwy lythyr, cerdd a chân.
"Diolch i archifau’r Llyfrgell, cawn weld syniadau gwleidyddol yn treiddio i fywydau pobl bob dydd.”