Mwy o Newyddion
Ysmygu mewn ysbytai – dweud eich dweud
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ceisio barn y cyhoedd ar staff a chleifion yn ysmygu ar safleoedd eu hysbytai.
Bydd yr arolwg, sy’n gofyn 12 cwestiwn ac sy’n cymryd tua 5 i 10 munud i’w lenwi, yn helpu i lywio polisi di-fwg y Bwrdd Iechyd pan fydd yn cael ei adolygu yn y misoedd nesaf.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda: “Rydym wedi gofyn barn ein staff ar sut mae annog ysmygwyr i beidio ag ysmygu ar safleoedd ein hysbytai, a nawr rydym yn gofyn barn y cyhoedd.
“Mae’n destun balchder i ni bod holl safleoedd y Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi’u dynodi’n ffurfiol yn safleoedd di-fwg ers mis Gorffennaf 2012, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i ni hyrwyddo iechyd cyhoeddus, ond, er bod mwyafrif y staff, cleifion ac ymwelwyr â’n safleoedd yn parchu’r polisi hwn, mae rhai unigolion yn parhau i ysmygu ar ein safleoedd.
“Mae ein polisi di-fwg yn cwmpasu’r holl safleoedd a thiroedd ac yn berthnasol i holl aelodau’r cyhoedd, cleifion (heblaw’r rhai hynny sy’n preswylio mewn unedau iechyd meddwl preswyl sydd wedi’u heithrio o dan Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) 2007), ymwelwyr, staff a chontractwyr.
“Mae gan bob un yr hawl i anadlu awyr iach, yn enwedig pan yn ymweld â chyfleuster gofal iechyd.
"Yn ddiweddar, gwnaethom gyflwyno systemau sain yn ein pedair ysbyty acíwt, sy’n galluogi pobl i wasgu botwm coch sy’n cyhoeddi neges ar uwchseinydd Tannoy sy’n atgoffa ysmygwyr ei bod hi’n safle di-fwg ac yn gofyn iddynt i ddiffodd y sigarét.
"Roedd yr adborth i’r prosiect hwn yn gadarnhaol iawn, felly rydym nawr am i’r cyhoedd roi eu barn ar sut y gallwn adeiladu ar y gwaith hwn.
“Cofiwch, os ydych am roi’r gorau i ysmygu, mae gwasanaethau ar gael i’ch cefnogi – ewch amdani!”
Cymerwch ran yn yr arolwg https://www.surveymonkey.co.uk/r/dfcyh-sfpub, neu os ydych yn dymuno copi caled, cysylltwch â Sonja Anderson, CP y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, mewn ebost: Sonja.Anderson@wales.nhs.uk neu ar y ffôn: 01267 239711. Bydd yr arolwg yn cau ar 23 Medi 2016.
Os ydych am gefnogaeth i roi’r gorau i ysmygu, ewch i wefan Digon yw Digon y Bwrdd Iechyd Prifysgol: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/77333 i ddod o hyd i’r gwasanaeth sy’n addas i chi, neu siaradwch â fferyllydd am gyngor.