Mwy o Newyddion
Llwyddiant nodedig arall gyda'r amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor
Prifysgol Bangor yw'r sefydliad cyntaf yng Nghymru (ac yn wir yn y Deyrnas Unedig) i gyflawni Lefel 5 fersiwn newydd 2016 o Safon y Ddraig Werdd i Reolaeth Amgylcheddol.
Dim ond fis Gorffennaf eleni y lansiwyd y Safon newydd ac mae sefydliadau ardystiedig yn cael 12 mis i fodloni'r meini prawf llymach a nodwyd yn fersiwn 2016.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol, Gwasanaethau Eiddo a Champws: "Mae ein trefniadau rheoli'r amgylchedd yn cael eu harchwilio'n flynyddol gan Groundwork Cymru, sy'n edrych yn fanwl ar ein dulliau o arbed ynni a dŵr, gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, a rheoli gwastraff a theithio.
"Yn hytrach na disgwyl am flwyddyn arall i'r Safon newydd ddod yn orfodol, fe wnaethom ddewis cael ein hasesu yn ei herbyn yn syth ar ôl iddi gael ei lansio."
Meddai'r Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes: "Dwi wrth fy modd efo'r newyddion yma.
"Mae sicrhau'r dyfarniad yma mor fuan ar ôl ei lansio yn glod i'r staff a myfyrwyr niferus sy'n gwneud eu gorau i amddiffyn a gwella'r amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor a'r cyffiniau.
"Rwy'n arbennig o falch o'r ffordd rydym yn lleihau ein hôl troed carbon yn flynyddol trwy ystod o gynlluniau, o oleuadau LED a gwella systemau gwresogi i swyddfeydd heb finiau a cherbydau trydan.
"Yn ogystal, mae defnyddio ynni yn y rhan fwyaf o'n hadeiladau'n cael ei fonitro nawr bob hanner awr drwy ein System Mesuryddion Awtomataidd.
"Mae hyn yn hynod werthfawr i'n helpu i weld lle gellir gwneud arbedion pellach."
Meddai Gareth Jones, Rheolwr Ansawdd y Ddraig Werdd yn Groundwork Cymru: "Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn Safon y Ddraig Werdd er 2009.
"Mae cael tystysgrif Lefel 5 mor fuan ar ôl i'r Safon gael ei diwygio yn ganmoladwy, ac mae'n tystio'n amlwg i'w hymrwymiad parhaus i leihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd a hyrwyddo cynaliadwyedd yn y brifysgol. Rydym yn eu llongyfarch i gyd ar eu gwaith caled."
Llun - O’r chwith: Robert Williams, Archwiliwr y Ddraig Werdd ar gyfer Groundwork Wales, Yr Athro John G Hughes a Ricky Carter.