Mwy o Newyddion
Gwaith ar amddiffynfa fôr Fairbourne
Bydd gwaith ar amddiffynfa fôr pentref arfordirol yng ngogledd Cymru yn dechrau wythnos nesaf.
Bydd contractwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn symud tua mil o dunelli o raean o draeth Fairbourne er mwyn llenwi’r llecyn sydd wedi erydu ger yr amddiffynfa goncrid yng nghornel Friog.
Bydd y gwaith yn cymryd rhwng pump a deg diwrnod i’w gwblhau, yn dibynnu ar y tywydd. Alun Griffiths, contractwr lleol, fydd yn mynd i’r afael â’r gwaith.
Fe fydd peiriant cloddio a lori dympio’n casglu ac yn symud y graean, gan weithio ar hyd llecyn 500 metr o’r traeth. Bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn modd a fydd yn effeithio cyn lleied ag y bo modd ar y traeth, fydd yn ail-broffilio’n naturiol.
Bydd rhai o rwystrau tanciau’r Ail Ryfel Byd sydd ar y traeth yn cael eu symud yn ystod y gwaith ac yn cael eu rhoi’n ôl wedyn, gyda sêl bendith CADW.
Meddai Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau’r Gogledd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i gynnal a monitro’r amddiffynfa fôr yn y tymor byr a’r tymor canol er mwyn helpu i leihau’r perygl llifogydd i drigolion Fairbourne.
“Mae adnewyddu’r graean yng nghornel Friog yn rhan o’r ymrwymiad parhaus hwn.”
Bydd CNC yn cadw golwg ar y graean a osodir yno er mwyn i symudiad naturiol y traeth gael ei ystyried yng nghynllun mwy hir-dymor CNC ar gyfer cynnal yr amddiffynfa feini yng nghornel Friog.
Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn cyfrannu at siapio’r rhaglen waith ar gyfer rheoli risg llifogydd yng nghornel Friog.
Mae CNC hefyd wedi dechrau gwaith cynnal a chadw ar Afon Henddol gerllaw – yn bennaf, torri’r chwyn er mwyn i’r dŵr allu llifo’n ddirwystr. Bydd hyn yn parhau drwy fis Medi.
Gall unrhyw un sy’n bryderus ynghylch llifogydd fwrw golwg dros eu perygl llifogydd a chofrestru i gael rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu drwy edrych ar http://www.naturalresources.wales/flooding?lang=cy
Mae CNC yn aelod o Fwrdd Prosiect ‘Fairbourne Moving Forward’.