Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Awst 2016

Owen Smith yn cadarnhau fod Llafur yn driw i San Steffan, nid Cymru yn ôl Adam Price

Pe bai Owen Smith yn ennill ras arweinyddol Llafur y dylai Prif Weinidog Cymru ddisgwyl y bydd ei farn yn cael ei danseilio gan y blaid yn San Steffan, mae Adam Price AC Plaid Cymru wedi rhybuddio.

Mewn cyfweliad sydd wedi ei ddisgrifio'n un trychinebus ar raglen Good Morning Scotland y BBC y bore 'ma, cadarnhaodd y byddai barn y blaid Lafur yn yr Alban yn cael ei threchu gan farn y blaid yn San Steffan.

Dywedodd Adam Price AC Plaid Cymru: "Mae Owen Smith wedi cadarnhau heddiw fod y blaid Lafur yn driw i San Steffan, nid i genhedloedd datganoledig megis Cymru.

"Er gwaetha'r ffaith fod Prif Weinidog Cymru wedi ei ethol i lywodraethau, mae'n glir fod y blaid Lafur yn ystyried San Steffan yn sofran, ac y bydd unrhyw benderfyniad a wnaed yng Nghymru sydd ddim yn gweddu Llafur yn San Steffan yn cael ei drechu.

"Credai Plaid Cymru'n gryf fod pobl Cymru'n sofran.

"Dylid parchu ac anrhydeddu'r penderfyniadau democrataidd sy'n cael eu gwneud gan bobl Cymru.

"Ond mae hunanfoddhad Llafur yn bodoli i'r fath raddau eu bod yn credu fod barn elit San Steffan yn bwysicach na barn pobl Cymru.

"Nid dyma'r tro cyntaf i Owen Smith arddangos y fath sarhad tuag at ddatganoli.

"Dro ar ol tro, mae wedi pleidleisio yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru yn San Steffan, ac mae ei honiad ei fod yn "ddatganolwr brwd" wedi ei brofi i fod yn ddim mwy na geiriau gwag.

"Ond heddiw, mae Owen Smith wedi cadarnhau unwaith ac am byth - yn llygad y blaid Lafur, mae San Steffan yn curo Cymru bob tro."

Rhannu |