Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Awst 2016

Plaid Cymru yn apwyntio prif weithredwr newydd

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi apwyntiad Prif Weithredwr newydd heddiw.

Bydd Gareth Clubb yn arwain gwaith y Blaid o'r pencadlys yng Nghaerdydd o'r 21ain o Fedi.

Ar hyn o bryd, Gareth yw cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru ac mae ganddo brofiad rheoli trefniadol sylweddol o rolau yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Safodd etholiad yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad cyffredinol 2005.

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru Alun Ffred Jones: "Rydym yn hynod falch o fod wedi apwyntio Gareth yn Brif Weithredwr newydd y Blaid.

"Bydd yn medru defnyddio ei brofiad helaeth o amryw o rolau i gefnogi a datblygu tîm staff deinamig Plaid Cymru."

Wrth drafod ei apwyntiad, dywedodd Gareth Clubb: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â thim gwych Plaid Cymru yn ystod cyfnod mor gyffrous i wleidyddiaeth yng Nghymru.

"Mae ymwneud â gwleidyddiaeth wedi bod yn agwedd bwysig iawn o fy ngwaith, ac rwyf yn eiddgar i ddechrau ar y dasg o sicrhau fod y Blaid yn ehangu ei hapêl ledled Cymru."

Llun: Gareth Clubb
 

Rhannu |