Mwy o Newyddion
Monitro dolffiniaid Risso ger Ynys Enlli
Mae gwaith ar y gweill i fonitro math unigryw o ddolffin oddi ar arfordir Gogledd Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda Whale and Dolphin Conservation ar astudiaeth hirdymor o ddolffiniaid Risso o amgylch Ynys Enlli.
Dyma un o blith ychydig o safleoedd o amgylch y DU lle y gellir gweld y dolffiniaid yn agos at y tir.
Bydd y rhaglen fonitro hon yn para pythefnos, gan gychwyn ddydd Sadwrn 27 Awst, a bydd yn arwain at wybodaeth werthfawr i arbenigwyr CNC a sefydliadau eraill yn ymwneud ag arferion bwydo’r dolffiniaid a’u rhyngweithio cymdeithasol.
Gellir gweld fideo o’r dolffiniaid yn chwarae ar sianel YouTube CNC.
Mae eu pennau crynion a’u creithiau gwyn yn ffordd o wahaniaethu rhyngddynt hwy a dolffiniaid trwyn potel, gan helpu hefyd gyda’r gwaith monitro.
Meddai Ceri Morris, arbenigwr ar Famaliaid Môr, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’n hamgylchedd, ein treftadaeth a’n diwylliant yng Nghymru, ac mae’n bwysig inni fonitro rhywogaethau o’r fath er mwyn helpu i’w gwarchod.
“Fel arfer, mae’n well gan ddolffiniaid Risso ddŵr dwfn, lle y maen nhw’n bwydo ar fôr-lewys ac octopysau. Felly, mae’r ardal hon o amgylch Ynys Enlli, lle y gellir eu gweld yn agos at y tir, yn eithaf prin yn y DU.
“Maen nhw’n cael eu geni’n llwyd, ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn caiff eu cyrff eu gorchuddio â chrafiadau a chreithiau, sy’n ein helpu i’w hadnabod.
“Rydym yn credu mai’r môr-lewys yw achos y creithiau yma, a’u bod hefyd yn ymddangos wrth i’r dolffiniaid ddod i gysylltiad â dolffiniaid Risso eraill.
“Fe fydd rhan o’n gwaith monitro yn cynnwys adnabod dolffiniaid unigol er mwyn gweld a ydyn nhw’n dychwelyd i’r un ardal. Hefyd, gallwn ddarganfod a ydyn nhw wedi cael eu gweld mewn mannau eraill.
“Bydd yr holl wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i amcangyfrif faint o ddolffiniaid Risso sydd i’w cael o amgylch Ynys Enlli, a deall pwysigrwydd yr ardal hon i’w harferion bridio a bwydo.”
Llun: Pine Eisfeld-Pierantonio / WDC